Mae gan bob ysgol gorff llywodraethu sy'n cynnwys aelodau o'r gymuned leol, rhieni, athrawon, staff a chynrychiolwyr yr Awdurdod Addysg Lleol. Hefyd mae Cyrff Llywodraethu Ysgolion Eglwysig (Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir) yn cael eu cynrychioli gan yr awdurdod eglwysig.
Pan ddaw llefydd gwag ar gyfer rhieni-lywodraethwyr, dosberthir gwybodaeth trwy law'r disgyblion ac er mwyn i rywun fod yn gymwys i gael ei enwebu fel rhiant-lywodraethwr, mae'n rhaid iddo/iddi fod â phlentyn ar gofrestr yr ysgol y mae'r Corff Llywodraethu'n gyfrifol amdani. Pedair blynedd yw cyfnod swydd llywodraethwyr a gall rhiant-lywodraethwr, os yw ef/hi yn dymuno, wasanaethu am y cyfnod cyfan hyd yn oed os nad yw ei blentyn/phlentyn bellach yn ddisgybl yn yr ysgol.
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Gyrff Llywodraethu gwrdd o leiaf unwaith y tymor ond gallant gwrdd yn amlach er mwyn trafod materion penodol.
Pwy sy'n Llywodraethwyr Ysgol?
Mae gan bob ysgol gorff llywodraethu sy'n gyfrifol am reolaeth gyffredinol yr ysgol. Mae union faint y corff llywodraethu yn dibynnu ar faint yr ysgol; mae'r aelodaeth yn cael ei phennu yn ôl y gyfraith, ac mae pob un yn cynnwys gwahanol fathau o lywodraethwyr. Gallant gynnwys rhai neu'r cwbl o'r canlynol:
Rhieni - sy'n cael eu hethol gan rieni plant sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i lywodraethwyr o'r fath fod â phlentyn yn yr ysgol adeg yr etholiad.
Athrawon - aelodau o staff addysgu'r ysgol, sy'n cael eu hethol gan athrawon.
Staff - aelodau o'r staff nad ydynt yn addysgu, sy'n cael eu hethol gan y staff nad ydynt yn addysgu.
AALl - sy'n cael eu penodi gan yr Awdurdod Addysg Lleol. Fel arfer, mae'r llywodraethwyr hyn yn meddu ar sgil benodol a defnyddiol neu eu bod yn cael eu hadnabod am eu gwaith cymunedol a'u diddordeb mewn addysg.
Pennaeth Ysgol - gall ddewis bod yn llywodraethwr neu ddewis aros yn annibynnol. Pa un bynnag a ddewisa, mae gan bennaeth ysgol hawl i fod yn bresennol yn holl gyfarfodydd y corff llywodraethu.
Aelodau cymunedol - mae'r rhain yn cael eu penodi gan y corff llwyodraethu, a gall y llywodraethwyr hyn feddu ar sgiliau penodol neu berthyn i grŵp penodol mewn cymdeithas megis y gymuned fusnes. Mae llywodraethwr cymunedol ychwanegol sy'n cynrychioli is-awdurdod yn cael ei gynnwys/chynnwys yng nghyrff llywodraethu ysgolion cynradd.
Aelodau sefydledig - mae'r rhain yr un fath yn y bôn â llywodraethwyr cymunedol, ac fe gânt eu penodi ar gyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol.
Beth yw'r Cyfarfodydd Blynyddol â'r Rhieni?
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Gyrff Llywodraethu baratoi adroddiad sy'n crynhoi'r camau gweithredu a wneir ganddynt. Mae'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r rhieni yn y Cyfarfod Blynyddol â’r Rhieni lle rhoddir cyfle iddynt drafod â'r Llywodraethwyr gynnwys yr adroddiad a gofyn unrhyw gwestiynau yn ymwneud â rhedeg yr ysgol.
Pa Gymwysterau sydd eu hangen ar Lywodraethwyr?
Nid oes angen dim cymwysterau ffurfiol i fynd yn llywodraethwr ysgol. Yr hyn sy'n hanfodol yw diddordeb mewn addysg plant ac ymrwymiad i hynny. Mae'n rhaid i lywodraethwyr fod dros 18 oed a chyfnod y swydd yw pedair blynedd.
Pobl gyffredin yw llywodraethwyr, sy'n dod o lawer o wahanol rannau o gymdeithas. Mae'n rhaid iddynt allu rhoi o'u hamser i ddod i adnabod yr ysgol yn dda a bod yn weithredol ac ar gael yn eu cefnogaeth iddi. Mae synnwyr cyffredin ac awydd i wasanaethu'r gymuned yn bwysig iawn hefyd.
Fel arfer ni all unrhyw un fod yn llywodraethwr mewn mwy na dau gorff llywodraethu.
Beth a ddisgwylir gan Lywodraethwr?
Amser
- Mynychu cyfarfod o'r corff llywodraethu cyfan o leiaf unwaith y tymor.
• Mynychu cyfarfodydd pwyllgor yn ôl yr angen.
• Darllen adroddiadau a phapurau cefndir cyn cyfarfodydd.
• Mynychu’r cyfarfod blynyddol â’r rhieni.
• Mynychu digwyddiadau eraill megis cyngherddau, nosweithiau agored, diwrnod chwaraeon.
Ymrwymiad
- Dangos diddordeb mewn plant a'u haddysg a chymryd rhan mewn llawer o weithgareddau'r ysgol.
- Mynychu cyfarfodydd llywodraethwyr.
- Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb.
- Dod i adnabod y staff, y disgyblion a'u gwaith.
- Cynnig cymorth ac arbenigedd.
Gwybodaeth
- Dilyn newyddion a dadleuon addysgol.
- Mynychu sesiynau hyfforddi.
Sgiliau
Cydweithredu ag eraill yn greadigol.
- Defnyddio rhinweddau ac arbenigedd personol er budd yr ysgol, ei disgyblion a'i hathrawon.
Beth yw'r Mathau o Ysgolion?
Cynradd : 3 - 11 oed. Mae rhai ysgolion yn rhannu'n Ysgol Plant Bach ac Ysgol Iau.
Uwchradd : 11 - 16 oed neu 11 - 18 oed.
Arbennig :Ysgolion ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig.
Gwirfoddol : Mae rhai ysgolion wedi cael eu sefydlu gan yr Eglwys neu ymddiriedolaeth addysgol a gelwir y rhain yn Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir neu'n Ysgolion Gwirfoddol a Reolir ac maent yn gysylltiedig fel arfer ond nid bob amser â'r Eglwys yng Nghymru neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig.
Sut mae dangos bod gennych ddiddordeb mewn bod yn Llywodraethwr?
Drwy wneud un neu'r cwbl o'r canlynol:-
- Defnyddiwch y linc ar law dde'r dudalen yma, ei llenwi a'i dychwelyd i'r cyfeiriad a benodwyd.
- Cysylltu â'r ysgol y mae gennych chi ddiddordeb ynddi, ei Phennaeth neu Gadeirydd y Llywodraethwyr.
- Cysylltu â'ch Cynghorydd Sir lleol.