/ae newidiadau mawr ar droed yn y byd heddiw ac nid yw maes /dysgu oedolion yn y gymuned yn eithriad. Rydym yn awyddus i gyrraedd dysgwyr newydd, a’u hannog i ddysgu sgiliau newydd i’w cynorthwyo wrth ddilyn gyrfa.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn clywed am ein cyrsiau oddi wrth ffrindiau. Felly, dewch â ffrind gyda chi i un o’n diwrnodau agored. Cewch weld â’ch llygaid eich hun yr ystod eang o gyfleoedd dysgu sydd ar gael yn Sir Caerfyrddin!
Tymor Y Gwanwyn
Dechrau'r Tymor: 09/01/2012
Hanner Tymor: 13/02/2012 - 17/02/2012
Diwedd y Tymor: 23/03/2012
Os ydych am gael rhagor o gyngor a gwybodaeth mae croeso ichi ffonio neu ymweld â’ch Canolfan Addysg Gymunedol leol.