English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 01/5/2012
Gwasanaeth Seicoleg Addysg 

Nod Gwasanaeth Seicoleg Addysg Sir Gaerfyrddin yw defnyddio'r seicoleg ynghylch sut mae pobl yn dysgu, yn ymddwyn, yn meddwl ac yn teimlo i hwyluso newid cadarnhaol a fydd yn cynorthwyo ein holl blant a phobl ifanc i gyrraedd eu potensial. 

Rydym yn gweithio gyda/neu ar ran plant a phobl ifanc i ddatrys ar y cyd broblemau sy'n achosi pryder sylweddol i'r rhai sy'n cynorthwyo eu datblygiad, yn bennaf mewn ysgolion, ond hefyd mewn sefyllfaoedd cyn-ysgol, gartref, mewn lleoliadau maeth ac mewn sefyllfaoedd gofal seibiant.  Yn aml, mae'r pryderon ynghylch ymddygiad, dysgu, ymwneud cymdeithasol a lles emosiynol. 

Galwn y broses hon yn Ymgynghori a deuwn â'n  safbwynt seicolegol o'r sefyllfa i'r wybodaeth sydd gan y rhai sy'n gweithio gyda'r plentyn/person ifanc/grŵp/corff. Ynghyd â'r gyd-ddealltwriaeth hon, mae'n bosibl cynllunio camau gweithredu a ddylai ddod o hyd i ateb, ac adolygu'r cynnydd i sicrhau bod y cynllun yn gweithio.  

Yn ogystal, rydym yn chwarae rhan yn y broses amlasiantaeth o nodi anghenion addysgol  arbennig sylweddol ac argymell y ffordd orau i'w diwallu.  

Rydym hefyd yn cyfrannu'n helaeth i weithgareddau datblygu systemau a pholisi yn yr Awdurdod.  

Rydym wedi cynhyrchu Llawlyfr i Rieni, Ysgolion a Gweithwyr Proffesiynol eraill sydd â diddordeb yn y modd yr ydym yn gweithio. Fydd hwn ar gael yn y Gymraeg cyn gynted ag sy'n bosib. 

Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg wedi ei leoli yn

Adeilad 2, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3HB.

Gellir cysylltu â ni drwy ffonio 01267 246586 neu drwy anfon neges e-bost at EPS@carmarthenshire.gov.uk