
Lawrlwytho e-lyfrau
Cymorth i Lawrlwytho e-lyfr
Dechrau arni
Yr unig bethau sydd eu hangen i ddechrau arni yw rhif cerdyn llyfrgell, rhif PIN a chyfrifiadur personol (PC) neu MAC sydd wedi'i gysylltu â'r rhyngrwyd.
Cysylltwch â ni os na chawsoch eich rhif PIN llyfrgell: llyfrgell@sirgar.gov.uk
Pan fyddwch wedi lawrlwytho eich e-lyfr i'ch PC neu MAC gallwch ei drosglwyddo i un o'r gwahanol e-ddarllenwyr, llechi a ffonau clyfar.
Fodd bynnag, ni fydd y gwasanaeth yn gweithio ar yr holl lwyfannau a theclynnau, gan gynnwys rhai Kindle. Mae'n rhaid bod teclynnau'n derbyn protocol DRM (rheoli hawliau digidol) ac yn gallu lawrlwytho'r feddalwedd am ddim sy'n rheoli'r gwasanaeth e-lyfrau.
Rydym ni'n awgrymu eich bod yn darllen y wybodaeth dechnegol a'r atebion i gwestiynau eraill yn yr adran Cwestiynau Cyffredin ar y wefan cyn dechrau arni, neu os bydd problemau'n codi. Hefyd, mae'n bosibl y bydd angen ichi ddarllen cyfarwyddiadau eich teclyn.
Am ba hyd bydd yr e-lyfr ar gael ar fy PC/MAC neu ddarllenydd e-lyfrau?
21 diwrnod yw'r cyfnod benthyg a bydd yr e-lyfr yn darfod ar ôl hynny ac ni fydd modd ei ddarllen ar eich cyfrifiadur neu ddarllenydd e-lyfrau. Wedyn, bydd modd i ddefnyddiwr arall lawrlwytho'r e-lyfr.
Ydw i'n cael ymestyn y cyfnod benthyg?
Nac ydych. Os nad ydych chi wedi gorffen yr e-lyfr, cewch ei lawrlwytho eto os nad oes neb arall wedi'i archebu. Os oes archeb wedi'i gwneud, bydd angen ichi ychwanegu eich manylion at y rhestr aros a byddwch yn cael gwybod pan fydd yr e-lyfr ar gael i'w fenthyg.
Pa feddalwedd a ddefnyddir i lawrlwytho'r e-lyfr i'r cyfrifiadur?
Yn achos pob PC/MAC a'r holl ddarllenwyr a restrir isod, mae e-lyfrau'n cael eu lawrlwytho gan ddefnyddio meddalwedd e-lyfrau safonol Adobe Digital Editions.
Y tro cyntaf y byddwch yn ceisio lawrlwytho e-lyfr byddwch yn cael cyfarwyddyd i lawrlwytho a gosod Adobe Digital Editionsos nad yw'r feddalwedd hon ar eich cyfrifiadur yn barod.
http://www.adobe.com/products/digitaleditions/
Os yw e-lyfr yn cael ei ddefnyddio, ydw i'n gallu ei archebu?
Ydych. Mae'r gwasanaeth e-lyfrau'n caniatáu ichi archebu e-lyfr sydd wedi cael ei lawrlwytho. Os ydych chi am gynnwys eich cyfeiriad e-bost gyda'r archeb byddwn yn rhoi gwybod ichi cyn gynted ag y bydd y teitl ar gael.
Faint o amser sydd gennyf i lawrlwytho e-lyfr pan fydd y teitl rwy'n aros amdano ar gael i'w lawrlwytho?
Rydym ni'n caniatáu 3 diwrnod ichi lawrlwytho'r e-lyfr. Wedi hynny bydd yr e-lyfr yn cael ei gynnig i'r nesaf ar y rhestr aros neu'n cael ei ddychwelyd i'r gronfa e-lyfrau i gael ei gyrchu gan ddefnyddwyr eraill.