Prif ddiben yr Is-adran yw trawsnewid y rhwydwaith o ysgolion meithrin, cynradd, ac uwchradd sy'n gwasanaethu'r sir yn adnodd strategol a
gweithredol effeithiol sy'n diwallu anghenion y presennol a'r dyfodol o ran addysg yn yr ysgol ac addysg gymunedol, gan wneud hynny drwy wella adeiladau, seilwaith, a llefydd sydd wedi eu lleoli, eu dylunio, eu hadeiladu, neu eu haddasu yn briodol ar gyfer datblygu pobl a chymunedau Sir Gaerfyrddin mewn modd cynaliadwy.
Ein prif amcanion yw:
- datblygu, rheoli, a gweithredu Rhaglen Foderneiddio y Cyngor
- rhoi'r cynlluniau i ad-drefnu ysgolion ar waith
- cydgysylltu a gweithredu cynlluniau cyfalaf sylweddol sy'n ategu'r rhaglen Moderneiddio'r Ddarpariaeth Addysg, gan gynnwys gwaith mewn perthynas â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd
- rheoli datblygiad effeithiol y polisïau sy'n gysylltiedig â threfnu a moderneiddio ysgolion a rheoli'r blaengynllunio strategol sydd ynghlwm wrth raglen y Cyngor ar gyfer Moderneiddio'r Ddarpariaeth Addysg, gan greu cyswllt â'r holl amcanion perthnasol ym meysydd addysg
- datblygu cymunedol, ac adfywio.