Mae dau gynllun ar waith gan yr Awdurdod er mwyn darparu llaeth am ddim i blant, sef y cynllun dan bump a weinyddir yn unol ag Uned Ad-daliad Cenedlaethol Llaeth a chynllun Cyfnod Allweddol 1 a weinyddir yn unol â Rheoliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2001.
Mae’r ddau gynllun yn derbyn cymhorthdal o dan Gynllun y GE i ddosbarthu Llaeth mewn Ysgolion. Mae plant unigol dros 5 oed hefyd yn medru derbyn llaeth am ddim am resymau meddygol a pahn font yn mynychu ysgolion neu unedau arbennig.
Caniateir i ysgolion wneud eu trefniadau lleol eu hunain os ydynt yn dymuno cyflwyno cynlluniau llaeth sy’n talu amdanynt eu hunain.