Mae prydau ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu darparu gan Is-adran Arlwyo Cyngor Sir Caerfyrddin.
Mae'r adran hon o'r wefan ar gyfer rhieni, athrawon a disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae ysgolion yn lleoedd delfrydol i annog plant i ddewis bwydydd iachach gan helpu i atal gordewdra ymysg plant a’r problemau iechyd sy'n gysylltiedig â hynny. Gall ein staff profiadol, sydd wedi cael hyfforddiant llawn, eich cynorthwyo i ofalu am eich plentyn drwy ddilyn bwydlen iach, sy'n tynnu dŵr o'r dannedd ac sy'n bodloni Canllawiau Cymru ynghylch Maeth. Ein nod yw sicrhau y gellir paratoi pryd iach a maethlon i bob disgybl ac y darperir ar gyfer y rhai sydd â diet arbennig hefyd.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Thîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Sir Gaerfyrddin a Dietegwyr Paediatrig y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i lunio ein bwydlenni ac un o'n prif flaenoriaethau yw cael y plant i fwyta rhagor o ffrwythau a llysiau.
Bob diwrnod ysgol, mae ein staff arlwyo'n paratoi mwy na 19,000 o brydau mewn mwy na 130 o sefydliadau addysgol. Mae Hylendid Bwyd yn fater yr ydym yn ei gymryd o ddifrif ac yn ogystal â chynllun cynhwysfawr o hyfforddiant staff, mae gennym system ragorol i sicrhau ansawdd sy’n cyfyngu ar yr holl risgiau a pheryglon sy'n gysylltiedig â gwaith arlwyo, er mwyn sicrhau bod y bwyd yn cael ei baratoi yn y modd mwyaf diogel sy'n bosibl.
Y Bwyd a Ddefnyddiwn
Mae'n rhaid i'n holl gyflenwyr fodloni safonau penodol ar gyfer ansawdd a hylendid cyn iddynt gael eu hystyried yn ddarparwyr priodol.
· Rydym yn prynu bwyd lleol pryd bynnag y bo modd.
· Rydym yn cefnogi arferion caffael moesol ac yn prynu nifer o gynhyrchion Masnach Deg ac Organig.
· Nid ydym, hyd y gwyddom, yn defnyddio bwyd ac ynddo Gynhwysion a Addaswyd yn Enetig.
· Rydym yn gofalu cyfyngu ar faint o halen a ddefnyddiwn wrth goginio.
· Pryd bynnag y bo modd, rydym yn coginio'r bwyd yn y ffwrn er mwyn lleihau'r braster sydd yn ein prydau.
· Rydym yn cydymffurfio â Safonau Maeth ar gyfer Prydau Ysgol rhaglen 'Blas am Oes' Llywodraeth Cynulliad Cymru.
· Rydym yn flaengar o ran hybu ac annog bwyta iach ac rydym yn hoffi gwneud bwyta prydau yn brofiad gwerthfawr i'w fwynhau.
Manteision eraill bwyta pryd ysgol:
· Arbed amser yn y bore gan nad oes angen paratoi cinio a hefyd nid oes angen poeni am gadw bwyd yn ffres ac yn hylan tan amser cinio.
· Mae ein prydau'n cynnig gwerth am arian. Gall eich plentyn/plant fwynhau pryd 2 gwrs am ddim ond £2.00 y dydd (yn yr ysgol gynradd), a dim ond £2.00 y dydd (yn yr ysgol uwchradd).
· Mae'r plant yn cael budd o fwyta wrth y ford yng nghwmni eraill; anogir y disgyblion i roi cynnig ar fwydydd newydd hefyd.
· Mae'r holl brydau'n gytbwys eu maeth ac yn cynnig amrywiaeth o un dydd i'r llall.
· Rydym yn darparu ar gyfer llysieuwyr a'r plant hynny sydd ag anghenion dietegol meddygol a chrefyddol.
· Rydym yn gyson yn cynnig bwydlen y dydd ar sail thema, yn ogystal â chinio Nadolig 2 gwrs arbennig yn ystod mis Rhagfyr.