Menter Brecwast Am Ddim Ysgolion Cynradd
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Menter Brecwast Am Ddim Ysgolion Cynradd 
23/02/2011 

Mae Gwasanaeth Arlwyo Sir Gaerfyrddin yn darparu Menter Brecwast Am Ddim ac mae'r nifer sy'n cymryd rhan yn y cynllun yn y sir hon yn uwch na chyfradd yr un sir arall yng Nghymru. Mae 101 o ysgolion cynradd yn cymryd rhan yn y cynllun ar hyd a lled y sir.  

Mae brecwast wedi hen gael ei gydnabod yn bryd pwysicaf y dydd, ac mae'r dystiolaeth yn dangos bod cysylltiad rhwng brecwast iach a gwell iechyd, gwell canolbwyntio, a gwell ymddygiad yn ein hysgolion. 

Mae'n holl bwysig ein bod yn bwyta brecwast gan nad ydym ar ein gorau heb gael brecwast. Mae brecwast yn helpu i roi hwb i'ch corff ac yn rhoi tanwydd i'ch ymennydd ar ôl bod yn cysgu am oriau. Gan ein bod yn defnyddio ynni yn ystod y nos mae angen gofalu ein bod yn cael tanwydd newydd cyn gynted â phosibl ar ôl dihuno yn y bore er mwyn cychwyn y diwrnod yn y modd gorau posibl.  

Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin glwb brecwast, sy'n agor am 8am.  Cynigir amrywiaeth o ddewisiadau brecwast i'r disgyblion.

 

Dyma enghraifft o'n bwydlen:  

Dewis o rawnfwyd plaen fel Rice Krispies, Shreddies, Cornflakes neu Weetabix  

Amrywiaeth o ffrwythau 

Sudd ffrwythau neu laeth i'w yfed  

(Sylwer y gallai ein bwydlen frecwast amrywio rhywfaint o bryd i'w gilydd) 


Mae'n ffaith fod gan y disgyblion hynny sy'n bwyta brecwast well iechyd cyffredinol, eu bod yn canolbwyntio'n well a'u bod yn ymddwyn yn well yn yr ysgol na'r disgyblion hynny nad ydynt yn cael y pryd pwysig hwn. 
 

Clwb Brecwast LlanfynyddMae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig brecwast iach a hefyd yn trefnu cystadlaethau, brecwastau ar thema arbennig yn ystod y flwyddyn ac yn annog disgyblion i gymdeithasu yn ystod y sesiynau.

Mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim fel bod pawb yn cael cyfle i fod ar eu gorau ar ddechrau'r diwrnod ysgol!

Paratoir prydau ar gyfer gofynion deiet arbennig. Cysylltwch â'r Adran Addysg a Phlant drwy ffonio 01267 246537 i gael rhagor o wybodaeth.