Mae mwy o wybodaeth am y polisi hwn ar gael gan Reolwr Gweithrediadau Cludiant Teithwyr yr Awdurdod ym Mharc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin SA31 1HQ, rhif ffôn 01267 228 306.
Dylai cwynion gweithredol mewn perthynas â’r gwasanaeth cludiant o’r cartref i’r ysgol gael eu gwneud i Dîm Rhwydwaith yr Uned Cludiant Teithwyr ym Mharc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin SA31 1HQ, rhif ffôn 01267 228 326.
Caiff rhieni sydd wedi cyflwyno cais am gludiant am ddim ac wedi cael eu gwrthod apelio yn erbyn y penderfyniad, a byddant yn cael gwybod am y broses apelio gyda’r hysbysiad ysgrifenedig yn gwrthod y cais.