Rhaid i'r holl ddysgwyr sy’n gymwys i gael cludiant am ddim wneud cais ysgrifenedig i'r Awdurdod gan ddefnyddio'r ffurflen gais a gyhoeddwyd (ac eithrio ceisiadau am gludiant i Goleg Sir Gâr. Rhaid gwneud y rheini’n uniongyrchol i'r Coleg).
Mae ffurflenni cais ar gael yn yr ardal 'Lwytho i lawr' ar y dudalen hon neu gan Uned Cludiant Teithwyr yr Awdurdod drwy ffonio 01267 228 326. Rhaid gwneud ceisiadau am gludiant o leiaf 15 diwrnod cyn y dyddiad cyntaf y mae angen y cludiant, neu erbyn 1 Gorffennaf lle mae angen y cludiant ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd.
Os caiff y cais ei gymeradwyo, bydd yr Awdurdod yn anfon Tocyn Teithio atoch. Gyda’r Tocyn Teithio rhoddir manylion am y llwybr bws i’w ddefnyddio, ynghyd â chopi o'r "Côd Ymddygiad" y mae'n rhaid cadw ato bob amser. Bydd y Tocyn Teithio fel arfer yn cael ei gyhoeddi cyn pen 15 diwrnod ar ôl gwneud cais, er y bydd yr amserlen hon yn cael ei hymestyn yn achos ceisiadau a wnaed rhwng 1 Gorffennaf ac 1 Medi, ac ni fyddant yn gymwys i ddysgwyr sy'n trosglwyddo o Ysgol Gynradd i Ysgol Uwchradd (gweler isod).
Rhaid i ddysgwyr sy’n trosglwyddo o Ysgol Gynradd i Ysgol Uwchradd gyflwyno ffurflen gais arbennig a ddarperir gan yr Ysgol Gynradd fel rhan o'r wybodaeth sy'n ymwneud â'r broses drosglwyddo. Rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno i'r AALl erbyn 4 Chwefror cyn y flwyddyn ysgol y bydd y dysgwr yn trosglwyddo o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd. Bydd y ceisiadau'n cael eu gwirio i gadarnhau fod y dysgwr yn mynychu’r ysgol agosaf neu ysgol benodedig y dalgylch. Os caiff hynny ei gadarnhau caiff y cais ei asesu wedyn gan yr Uned Cludiant Teithwyr i benderfynu ar yr hawl i gludiant am ddim. Bydd yr Uned Cludiant Teithwyr yn cadarnhau neu’n gwrthod y cais am gludiant am ddim erbyn 1 Mehefin, a chaiff Tocynnau Teithio eu hanfon at ddysgwyr cymwys yn ystod mis Awst.
Os collir y Tocyn Teithio neu os caiff ei ddifrodi rhaid cysylltu â’r Awdurdod ar 01267 234 567 ar unwaith er mwyn gwneud trefniadau dros dro ar gyfer teithio (lle bo modd) ac i archebu tocyn newydd. Codir tâl o £5 am Docynnau Teithio newydd.