Y mae rhai gofynion trwyddedu ar gyfer symud anifeiliaid yn dal mewn grym yn sgil clwy'r traed a'r genau.
Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf, dylid cysylltu â ni neu Wefan DEFRA (Adran yr Amgylchedd, Bwyd, a Materion Gwledig).
Dylid anfon Rhybudd Symudiadau i'r awdurdodau fel a ganlyn:
Moch
Mae bellach yn gyfrifoldeb y sawl sy'n derbyn yr anifeiliaid i roi rhybudd i'r Awdurdodau Lleol o fewn tridiau i'r symudiad (dylid anfon neu ffacsio'r copi gwyn). Rhaid rhoi rhybudd o bob symudiad, gan gynnwys rhai o fewn pyramid a rhai i'r lladd-dy.
Defaid a Geifr
Mae bellach yn gyfrifoldeb y sawl sy'n derbyn yr anifeiliaid i roi rhybudd i'r Awdurdodau Lleol o fewn tridiau i'r symudiad (dylid anfon neu ffacsio'r copi gwyn).
Gwartheg
Rhaid dweud wrth BCMS am unrhyw symudiadau gwartheg. Bydd unrhyw symudiadau anifeiliaid, ac eithrio moch, i fferm yn arwain at ataliad 6 diwrnod ar symudiadau ymhellach oddi ar y fferm honno (ac eithrio i ladd-dy a rhai symudiadau penodol o anifeiliaid bridio). Pan symudir moch i fferm, mae'n arwain at ataliad 6 diwrnod ar gyfer gwartheg, defaid, a geifr, ond ataliad 20 diwrnod ar gyfer moch.