Cynlluniau Llawn
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cynlluniau Llawn 

Gellir defnyddio'r dull hwn o roi hysbysiad ar gyfer pob math o adeilad. Mae Cynlluniau Llawn yn addas ar gyfer y canlynol:-

l Unrhyw adeiladau newydd

l Estyniadau neu newidiadau i unrhyw adeilad, ar wahân i estyniadau unllawr bach i gartrefi

l Newidiadau strwythurol helaeth i unrhyw adeilad

l  Creu ystafell neu ystafelloedd mewn to

Mae cynlluniau manwl wrth raddfa ar gyfer eich cais yn cael eu cyflwyno ynghyd â Ffurflen Gais Cynlluniau Llawn. Wedyn, mae'r cynlluniau hyn yn cael eu gwirio i weld a ydynt yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu. Fel arfer, mae dwy ran i'n costau ar gyfer y weithdrefn hon. Mae angen talu'r rhan gyntaf wrth gyflwyno'r cynlluniau (Cost Cynllun), ac mae angen talu'r ail ran pan fydd y gwaith yn dechrau ar y safle (Costau Archwilio)

Manteision y weithdrefn Cynlluniau Llawn:

l Byddwch yn derbyn penderfyniad ffurfiol ar ôl i'r gwaith gwirio terfynol gael ei gwblhau.

l Gellir cyflwyno Hysbysiad Cymeradwyo ichi ar gyfer sefydliadau ariannol, cyfreithwyr neu syrfewyr ac ati, a fydd yn ddefnyddiol wrth wneud cais am fenthyciad neu symud tŷ.

l Gallwch fod yn sicr, os yw'r gwaith yn cael ei gyflawni'n unol â'r cynlluniau cymeradwy, y bydd y Rheoliadau yn cael eu bodloni.

l Rhoddir Tystysgrif Gwblhau yn dilyn yr archwiliad terfynol.


}} Gallwch lawrlwytho'r ffurflen drwy ddefnyddio'r ddolen ar y dde




 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 16/3/2010
 
Manylion Cysyllt
 

Uned Rheolau Adeiladu
Adeilad 16
Parc Dewi Sant,
Heol Ffynnon Job
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA313HB.

Ffôn: 01267 246012 / 246015
Ffacs: 01267 246017

e-bost: rheolaeth.adeiladu@sirgar.gov.uk

Gweld yr holl fanylion cyswllt cynllunio