Ceisiadau ar gyfer Rheoliadau Adeiladu
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 16/3/2010
Ceisiadau ar gyfer Rheoliadau Adeiladu 

Dylech chi benderfynu pa gais sy'n briodol ar gyfer eich sefyllfa eich hun. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r adain Rheoli Adeiladu.

Hyd yn oed os ydych chi o'r farn nad oes angen cymeradwyaeth Rheoli Adeiladu ar gyfer eich gwaith, mae'n well gofyn bob tro.

Mathau o gais Rheoli Adeiladu

Mae tri gwahanol fath o gais Rheoli Adeiladu:

l Cais am Hysbysiad Adeiladu 
l Cais Cynlluniau Llawn 
l Cais rheoleiddio

Pa bethau eraill y dylid eu cynnwys?

Yn dibynnu ar ba gais yr ydych yn ei gyflwyno, mae'n bosibl y bydd angen cynnwys un neu ragor o'r canlynol:

Cynllun lleoliad - yn dangos eich eiddo chi a'r eiddo a'r ffyrdd cyfagos, gan amlygu'r safle arfaethedig.  Rhaid i'r cynllun fod wrth raddfa 1:1250 neu 1:2500 a dangos cyfeiriad y Gogledd.

Cynllun safle - fel arfer wrth raddfa 1:500 neu 1:200, gan ddangos y cynlluniau mewn perthynas â ffiniau'r safle ac adeiladau eraill ar y safle. 

Gweddluniau - Bydd angen ichi gyflwyno lluniadau eraill hefyd sy'n dangos inni beth yn union yr ydych yn dymuno ei wneud. Fel arfer, dylai'r rhain fod wrth raddfa 1:100 neu 1:50 i ddangos pob ochr o'r cynllun. Dylai'r lluniadau hyn ddangos mor llawn â phosibl y deunyddiau adeiladu arfaethedig, y math o ddeunyddiau, y lliw a'r gwneuthuriad, os ydych yn gwybod hyn. Pan fydd un o’r ochrau arfaethedig yn cysylltu ag adeilad arall, mewn sefyllfa lle mae adeilad yn rhan o bâr neu'n rhan o res o adeiladau, dylid dangos y rhan gymwys yn y gweddlun(iau) cysylltiedig.

Cynlluniau llawr - os ydych yn cyflwyno cais am estyniad, bydd angen hefyd gyflwyno lluniadau sy'n dangos y cynlluniau llawr presennol ac arfaethedig ar gyfer pob lefel o'r adeilad. Fel arfer, dylai'r rhain fod wrth raddfa 1:100 neu 1:50.

Y ffi - Fel arfer, bydd angen ichi dalu ffi wrth gyflwyno eich cais.  Bydd y swm y bydd yn rhaid ichi ei dalu'n dibynnu ar y gwaith yr ydych yn dymuno ei wneud. Ni ellir ystyried eich cais hyd nes y bydd y ffi briodol wedi cael ei thalu.

Adran 32 o Ddeddf Adeiladu 1984

Os nad yw'r gwaith wedi dechrau o fewn tair blynedd ar ôl cyflwyno'r cynlluniau, gall y Cyngor, drwy hysbysiad o dan Adran 32 o Ddeddf Adeiladu 1984, ddatgan bod y cynlluniau'n ddieffaith.

Os ydych chi'n dymuno i'r gwaith hwn fynd yn ei flaen o hyd, bydd angen cyflwyno cais newydd. Bydd yn rhaid i'r cais hwn fodloni'r safonau sy'n briodol adeg ei gyflwyno a bydd angen talu ffi ychwanegol.

Arolygwyr Cymeradwy

Arolygwyr Cymeradwy yw'r dewis arall yn y sector preifat yn lle Rheoli Adeiladu yr Awdurdod Lleol.  Os ydych chi'n penderfynu defnyddio gwasanaethau Arolygwr Cymeradwy yn lle gwasanaeth Rheoli Adeiladu y Cyngor, mae'n rhaid i'r Arolygwr Cymeradwy gyflwyno Hysbysiad Cychwynnol i'r Cyngor cyn i'r gwaith ddechrau ar y safle.

Nid fydd y Cyngor yn goruchwylio'r gwaith adeiladu ar y safle ar unrhyw adeg, ac nid fydd y Cyngor yn cyflwyno unrhyw ddogfennau i gadarnhau bod y gwaith wedi cael ei ddechrau neu ei gyflawni ar y safle.

Fel arfer, hysbysir y Cyngor am ddyddiadau dechrau a chwblhau'r gwaith at ddibenion hanesyddol ac os oes arnoch angen dogfennau mae gofyn ichi gysylltu â'r Arolygwr Cymeradwy yn uniongyrchol drwy'r wefan www.cic.org.uk/services/AIregister.shtml

Tystysgrifau Cwblhau

Ydy eich gwaith wedi cael ei gymeradwyo'n derfynol gan Syrfëwr Adeiladu?

Ni allwch gael Tystysgrif Cwblhau nes bod y Syrfëwr Adeiladu wedi cymeradwyo eich gwaith yn derfynol.

Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod angen ichi gael arolygiad terfynol i 'gwblhau' gwaith. Ni chewch gwblhau gwerthu eich tŷ heb brawf Tystysgrif Cwblhau ar gyfer unrhyw waith a gyflawnwyd ar adeilad.


 


 
Manylion Cysyllt
 

Uned Rheolau Adeiladu
Adeilad 16
Parc Dewi Sant,
Heol Ffynnon Job
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA313HB.

Ffôn: 01267 246012 / 246015
Ffacs: 01267 246017

e-bost: rheolaeth.adeiladu@sirgar.gov.uk

Gweld yr holl fanylion cyswllt cynllunio