Mae cynlluniau neu ddarluniau ar gyfer prosiectau arfaethedig yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor er mwyn iddo wirio eu bod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu cyn i’r gwaith ddechrau.
Gwneir hyn i sicrhau bod modd gwneud unrhyw newidiadau neu ddiwygiadau cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau ar y safle, sy’n gallu arbed amser ac arian i’r Datblygwr.
Ar gyfer gwaith domestig a Thai newydd, mae arnom angen dwy set o’r Cynlluniau. Ar gyfer Prosiectau Masnachol, mae arnom angen pedwar copi o’r cynlluniau, gan fod angen i ni ymgynghori â’r Gwasanaeth Tân ynghylch y mathau hyn o Adeiladau.
Bydd angen i chi gael cynlluniau wedi’u tynnu gan berson cymwysedig addas ac awgrymwn eich bod yn edrych yn Yellow Pages am Bensaer neu Ddylunydd. Mae hefyd yn ddefnyddiol gofyn i rywun sydd wedi cael gwaith wedi’i wneud yn ddiweddar i argymell adeiladwr. Yn anffodus, nid yw’r Cyngor yn gallu argymell dylunwyr neu adeiladwyr; fodd bynnag, mae gennym nifer o bartneriaid sy’n gallu cynnig y gwasanaeth hwn.
Ar gyfer prosiectau mawr, rydym yn cynnig gwiriadau a chyfarfodydd cyn ymgeisio i gynorthwyo gyda’r broses, gan arbed amser ac arian i Gwsmeriaid a’r Cyngor. Os oes gennych ddiddordeb yn y Gwasanaeth hwn, neu i gael cyngor ynghylch unrhyw un o’r uchod, cysylltwch ag Irfon Jones, Tony Williams neu Michael Fussell.