Gwaith heb ganiatâd a’r weithdrefn reoleiddio
Os gwnaed gwaith ar eich eiddo heb gyflwyno cais rheoliadau adeiladu, bernir na roddwyd caniatâd ar gyfer y gwaith.
Os gwneir gwaith ar eich eiddo, ac nid yw Rheoli Adeiladu wedi ei archwilio, heblaw am y materion iechyd a diogelwch posibl a allai godi, gallai perchennog yr eiddo wynebu trafferthion wrth geisio gwerthu neu ail-forgeisio’r eiddo.
Os gwnaed y gwaith heb ganiatâd unrhyw bryd ers 11eg Tachwedd 1985 gall y perchennog wneud cais am dystysgrif reoleiddio. Yn y bôn byddai hynny’n cyfateb i gyflwyno cais ôl-weithredol. Yn fwyaf pwysig, byddai’r dystysgrif reoleiddio yn golygu bod y gwaith adeiladu a wnaed yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu, ac y byddai perchennog yr eiddo’n medru gwerthu neu ail-forgeisio’r eiddo yn ddi-drafferth.
Y Weithdrefn Reoleiddio
1. Y cam cyntaf fydd cyflwyno ffurflen gais am reoleiddio atom, ynghyd â’r ffi berthnasol (cliciwch ar y ddolen fewnol ar y dde).
2. Wedyn bydd angen i chi roi galwad i ni i drefnu ein bod yn archwilio’r gwaith a wnaed. Yn dibynnu ar y math o waith dan sylw gall fod angen i chi amlygu peth ohono. Er enghraifft, os tynnwyd brestyn simnai, bydd angen amlygu’r cynheiliaid, ac os codwyd estyniad, bydd angen amlygu’r sylfeini.
3. Unwaith mae’r gwaith wedi cael ei archwilio a gall yr arolygydd gadarnhau ei fod yn cydymffurfio â’r rheoliadau adeiladu, rhoddir tystysgrif reoleiddio. Mae hon yn debyg i dystysgrif gwblhau, sydd weithiau’n cael ei rhoi ar ôl cwblhau gwaith a wnaed gyda chaniatâd.
Gweithdrefn gwaith heb ganiatâd
Mewn rhai achosion prin gall fod yn bosibl i’r Cyngor anfon llythyr atoch yn cadarnhau na chymerir camau gorfodi pellach lle nad oes modd amlygu’r gwaith a wnaed ar eich eiddo. Mae hyn yn arbennig o wir os gwnaed y gwaith amser hir yn ôl, felly gall fod yn berthnasol yn bennaf i waith a wnaed cyn 1985.
}} Gallwch lawrlwytho'r ffurflen drwy ddefnyddio'r ddolen ar y dde