Os ydych yn bwriadu gwneud gwaith dymchwel mae'n bosibl y bydd angen i chi roi gwybod i ni cyn i chi ddechrau.
Mae angen rhoi gwybod i'r Uned Rheoli Adeiladu os yw'r adeilad a ddymchwelir yn fwy na 1750 troedfedd giwbig neu 47 metr ciwbig. Gall estyniad cefn deulawr fod tua'r maint hwn. Rhaid cyflwyno'r cais o leiaf chwe wythnos cyn y bwriedir dechrau'r gwaith.
Byddwn yn rhoi hysbysiad i chi a fydd yn pennu gwahanol amodau, gyda'r bwriad o sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel a heb golli dim cyfleusterau i'r cyhoedd.
Ni ddylid dechrau dymchwel dim byd oni bai bod y Cyngor wedi rhoi hysbysiad o dan Adran 81 neu hyd nes bod chwe wythnos wedi mynd heibio ers hysbysu'r Cyngor am y bwriad i ddechrau dymchwel.
Mae'r cyfnod hwn yn ofynnol i roi amser i'r Cyngor ymgynghori â phobl eraill sydd a wnelont â'r mater. Bydd y Cyngor yn ceisio ymgynghori â hwy cyn gynted â phosibl, ac mewn sawl achos bydd yn gallu rhoi hysbysiad ymhen 7 i 14 diwrnod.
Hefyd, cyfrifoldeb y sawl sy'n gwneud y gwaith dymchwel yw ymgynghori â deiliaid adeiladau cyfagos ac â'r Byrddau Nwy a Thrydan.
Lle bo awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad o dan adran 81, mae'n rhaid iddo hefyd roi copi i berchnogion a deiliaid unrhyw adeilad ger y safle dymchwel, sef yr ymgymerwyr statudol.
Yn ogystal, rhaid rhoi copi i'r Awdurdod Tân a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch os yw'n fwriad llosgi deunydd ar y safle.
Gall hysbysiad o'r fath gynnwys yr amodau canlynol:
(a) atgyfnerthu adeiladau cyfagos
(b) diddosi arwynebau adeiladau cyfagos
(c) atgyweirio unrhyw ddifrod i adeiladau cyfagos a achosir gan y gwaith dymchwel
(d) gwaredu deunydd neu rwbel o'r safle yn sgil y gwaith dymchwel
(e) datgysylltu a selio unrhyw ddraeniau neu geuffosydd
(f) gwaredu unrhyw ddraeniau neu geuffosydd
(g) unioni arwyneb y tir yr effeithir arno
(h) gwneud trefniadau i ddatgysylltu'r nwy, y dŵr, a'r trydan yn yr adeilad
(i) gwneud trefniadau ynghylch llosgi deunydd ar y safle gyda:
(i) Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
(ii) Yr Awdurdod Tân
(j) cymryd y camau y mae'r awdurdod lleol yn eu hystyried yn angenrheidiol i ddiogelu'r cyhoedd ac i gadw cyfleusterau i'r cyhoedd.
Hefyd, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi gael Caniatâd Cynllunio ar gyfer rhai mathau o waith dymchwel ac y bydd angen i chi gael cytundeb Muriau Cyd gyda phob perchennog sy'n ffinio â chi.
|