Sut mae rhoi eich sylwadau
Gall unrhyw un gyflwyno sylwadau, p'un ai a ymgynghorwyd â hwy'n unigol ai peidio. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau, boed nhw o blaid cais neu'n ei wrthwynebu, er mai dim ond yr hyn sy'n 'ystyriaethau cynllunio' y gall y Cyngor eu hystyried.
Mae'r rhain yn cynnwys materion fel yr effaith ar draffig neu barcio, ar wedd safle'r cais, a fydd yn edrych dros rywle neu'n amharu ar rywun/rywbeth, colli golau neu breifatrwydd, yr effaith ar yr amgylchedd lleol ac a yw'r defnydd arfaethedig yn briodol.
Ni allwn ystyried materion megis gostwng gwerth eiddo, anghydweld preifat rhwng cymdogion, materion sy'n berthnasol i brydlesi neu gyfamodau, effaith y gwaith adeiladu, a chystadlu rhwng cwmnïau.
Dylid cyflwyno sylwadau cyn gynted ag y bo modd; er y bydd y Cyngor yn ystyried unrhyw sylwadau a geir tan y dyddiad y penderfyna ar y cais. Dylid cyflwyno sylwadau'n ysgrifenedig, drwy lythyr unigol neu ddeiseb, lle bynnag y bo modd. Yn ogystal, gellir cyflwyno sylwadau drwy E-Access neu UKPlanning neu drwy e-bostio cynllunio@sirgar.gov.uk. Bydd sylwadau'n cael eu cydnabod drwy'r post cyn pen 3 diwrnod gwaith ar ôl iddynt ddod i law.
Beth sy'n digwydd pan fyddwch yn rhoi sylwadau?
Bydd eich sylwadau a'ch barn yn cael eu hystyried pan benderfynwn ar gais cynllunio.
Bydd eich sylwadau'n cael eu rhoi yn ffeil y cais cynllunio, sy'n ddogfen gyhoeddus, y gall unrhyw un gael ei gweld.
Bydd eich sylwadau'n cael eu cynnwys yn Adroddiad y Pwyllgor os bydd y sylwadau'n groes i argymhelliad y swyddog.
Rhoi gwybod ichi am y canlyniad
Nid yw'n bosibl bob amser i ymateb yn unigol i sylwadau, ond os ydych wedi cyflwyno sylwadau, cewch wybod am benderfyniad y Cyngor.
Bydd copi o'r cofnod penderfyniadau ar gael ar-lein ichi ei weld.
Dim ond yr ymgeisydd all gyflwyno apêl yn erbyn y penderfyniad, ond os cyflwynir apêl, cewch wybod a chewch gyfle i gyflwyno rhagor o sylwadau i Arolygydd Cynllunio'r Llywodraeth sy'n ymdrin â'r apêl.
