Rydym yn eich annog i gyflwyno eich ceisiadau ar-lein gan ddefnyddio'r gwasanaeth ffurflenni ar y Porth Cynllunio.
Drwy ddefnyddio gwasanaeth ffurflenni ar-lein y Porth gallwch wneud y canlynol:
l Nodi a llenwi'r ffurflen gais
l Atodi dogfennau ategol
l Cyfrifo ffïoedd ar gyfer y cais
l Talu am y cais
l Sicrhau bod y cais yn gyflawn
l Cyflwyno'r cais i'r awdurdod cynllunio lleol
Sicrhewch fod yr holl ddarluniau'n cynnwys: maint yr argraffiad (papur); y raddfa berthnasol ar gyfer maint yr argraffiad hwnnw (e.e. 1:50 neu 1:100)
Ni ellir derbyn un atodiad sy'n fwy na 5Mb a'r terfyn o ran cyfanswm yr atodiadau mewn cais a gyflwynir drwy'r Porth Cynllunio yw 25Mb.
Lawrlwythwch y ddogfen gyfarwyddyd i weld rhagor o fanylion am y camau uchod.