Cael golwg ar y ceisiadau cynllunio
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 25/1/2010
Cael golwg ar y ceisiadau cynllunio 

 View online planning applications    O fis Ionawr 2004 ymlaen, ni chodir tâl am gael golwg ar ffurflenni cais, cynlluniau, a hysbysiadau o benderfyniadau. Hefyd, gallwch wneud sylwadau ar y ceisiadau cyfredol ar-lein. 

} Cliciwch yma i gael golwg ar ddogfennau ceisiadau cynllunio ar-lein

Ceisiadau Cyfredol

Bydd manylion ceisiadau ar gael i bobl gael golwg arnynt 4-6 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad cofrestru.

Nid ydym yn cyhoeddi dogfennau sy'n cynnwys manylion personol, meddygol, neu ariannol yr unigolion sy'n ymwneud â'r cais cynllunio neu'r dogfennau atodol, oni bai bod rheswm dilys dros wneud hynny. Hefyd, byddwn yn gwaredu / golygu yr holl lofnodion a gwybodaeth sy'n gysylltiedig â chyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn.

Ceisiadau y penderfynwyd arnynt

Ar gyfer ceisiadau a ddaeth i law er 1 Ionawr 2004, bydd modd gweld y cofnod penderfyniadau a’r cynlluniau 4-7 niwrnod gwaith ar ôl dyddiad y penderfyniad. Yn unol â chanllawiau PARSOL, ni fydd y dogfennau eraill i’w gweld ar ôl penderfynu ar y cais.

Hysbysiadau Penderfyniadau Cynllunio

 Os oes arnoch angen copïau o hysbysiadau penderfyniadau cynllunio cyn 2004, anfonwch e-bost at: planningsearches@sirgar.gov.uk  (ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn).

Hawlfraint 


Gwarchodir cynlluniau, darluniau, a deunydd arall a gyflwynir i'r awdurdod lleol gan y Ddeddf Hawlfreintiau, Dyluniadau a Phatentau 1988 (adran 47). Gallwch ond defnyddio deunydd sydd wedi ei lawrlwytho a/neu ei argraffu at ddibenion ymgynghori, i gymharu ceisiadau cyfredol â chynlluniau blaenorol, ac i gadarnhau bod datblygiadau wedi cael eu cwblhau'n unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd. Nid oes hawl gwneud rhagor o gopïau heb gael caniatâd perchennog yr hawlfraint yn gyntaf.