English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Dyfais Monitro Ynni – Cynllun Benthyca 

 

A wyddech chi fod modd ichi fenthyca dyfais monitro ynni yn yr un ffordd ag y byddech yn benthyca llyfr, cryno-ddisg neu dvd? O'r 18fed o Fai 2010 ymlaen bydd trigolion Sir Gaerfyrddin yn gallu benthyca dyfais monitro ynni am ddim o lyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin.

Mynd i'r Afael â'r Wasgfa Gredyd!
Prydain yw'r gwaethaf yn Ewrop am wastraffu ynni. Mae gan Brydain arferion gwael megis gadael cyfarpar ymlaen ond yn segur ('standby') a fydd wedi costio £11 biliwn i breswylwyr erbyn 2010.

Ar gyfartaledd, mae pob cartref yn y Deyrnas Unedig yn gwario oddeutu £1,300 y flwyddyn ar ynni, ac mae hynny'n debygol o godi eto fyth wrth i brisiau ynni godi.  Gallai gadael PlayStation 3 ymlaen ond heb ei ddefnyddio (“idle mode”) ychwanegu £164 y flwyddyn at eich bil trydan!
 

Dyfais Monitro Egni

Gellir defnyddio dyfais monitro ynni yn y cartref i helpu i arbed ynni ac arbed arian ar eich biliau.

Bydd yr uned arddangos (gweler y llun isod) yn dangos ichi faint o drydan rydych yn ei ddefnyddio a faint mae'n ei gostio.


Sut gallaf gael gafael ar Ddyfais Monitro Ynni?
Gallwch fenthyca dyfais monitro ynni am ddim o un o'r 14 o lyfrgelloedd yn Sir Gaerfyrddin, neu o un o'r 5 llyfrgell symudol.

• Rhydaman
• Brynaman
• Porth Tywyn
• Caerfyrddin
• Cross Hands
• Cydweli
• Llandeilo
• Llanelli
• Llangennech
• Llwynhendy
• Castellnewydd Emlyn
• Sanclêr
• Trimsaran
• Hendy-gwyn
• Llyfrgell symudol
 

Gallwch fenthyca'r uned am bythefnos. Daw llyfryn cyfarwyddiadau gyda'r ddyfais, ac mae’n hawdd i'w gosod ac yn gymorth i leihau'r ynni rydych yn ei ddefnyddio yn eich cartref.


I gael rhagor o wybodaeth am gynaliadwyedd a'r newid yn yr hinsawdd yn Sir Gaerfyrddin, cysylltwch ag:


Eurgain Powell
Ymgynghorydd Cynaliadwyedd
Cyngor Sir Caerfyrddin
cynaliadwyedd@sirgar.gov.uk
01267 224902

I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio ynni'n effeithlon yn y cartref, neu i gael copi o'n Pecyn Cymorth ynghylch Defnyddio Ynni'n Effeithlon yn y Cartref, cysylltwch â:


Graham Harries
Swyddog Defnyddio Ynni'n Effeithlon yn y Cartref
Y Tîm Gwella Cartrefi
Y Gwasanaethau Tai
gharries@sirgar.gov.uk
01554 742254

I gael cyngor annibynnol ynghylch arbed ynni yn rhad ac am ddim, cysylltwch â'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni drwy ffonio 0800 512 012 neu drwy fynd i: www.energysavingtrust.org.uk

 


 

 


 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 20/5/2010