English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Masnach Deg 
fair trade

Sir Gâr – Sir Masnach Deg
Ym mis Mai 2009, cafodd Sir Gaerfyrddin ei wneud yn sir Masnach Deg.  Erbyn hyn, mae yna ddau tref Masnach Deg yn y sir (Rhydaman a Caerfyrddin) ac mae grwpiau yn gweithio tuag at y statws yn Llanelli a Chastell Newydd Emlyn.

Cymru – y genedl masnach deg gyntaf

Ar 6 Mehefin 2008 roedd Cymru wedi creu hanes drwy fod y genedl Masnach Deg gyntaf erioed.

Roed y cyhoeddiad yn dilyn ymgyrch dwy flynedd gan Masnach Deg Cymru, a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, i sicrhau bod mwy o nwyddau Masnach Deg ar gael mewn trefi, dinasoedd a siroedd ledled Cymru, ac annog ysgolion, busnesau a sefydliadau eraill i droi at Fasnach Deg.

Fairtrade County

Partneriaeth yw Masnach Deg rhwng defnyddwyr yn y Gorllewin a chynhyrchwyr mewn gwledydd sy'n datblygu.

Mae llawer o'r nwyddau a brynwn mewn archfarchnadoedd yn cael eu tyfu gan bobl sydd heb gael eu talu'n iawn am eu gwaith, ac o ganlyniad i hynny mae'n rhaid iddynt fyw mewn tlodi.

Ar ben hynny, mae llawer o'r nwyddau'n cael eu cynhyrchu dan amodau gwaith erchyll, gyda phlant yn gweithio dros 80 awr yr wythnos gyda chemegion peryglus.

Mae Masnach Deg yn gwarantu:

  • Pris teg i gynhyrchwyr mewn gwledydd sy'n datblygu
  • 'Cyflog byw' i'r cynhyrchwyr hyn
  • Dim llafur plant
  • Amodau gwaith diogel
  • Diogelu'r amgylchedd
  • Hawliau i ferched
  • Premiwm cymdeithasol

Mae Nod Masnach Deg ar y nwyddau sy'n bodloni'r gwarantau hyn, gan fod yr holl nwyddau sy'n dangos y nod hwn yn cael eu harchwilio'n annibynnol er mwyn sicrhau bod y cynhyrchwyr yn cael eu trin yn deg mewn gwirionedd.

Mae Masnach Deg a wnelo â chreu cyfleoedd i gynhyrchwyr yn y byd sy'n datblygu i gael pris teg am eu nwyddau ac i weithio'u ffordd allan o dlodi.

Mae'n gyfle iddynt wella eu bywydau a bywydau eu teuluoedd, ac mae mor syml â'r dewisiadau fyddwch chi'n eu gwneud wrth siopa bob wythnos. Erbyn hyn, mae dros 1500 o nwyddau masnach deg ar gael.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gyngor masnach deg sy'n golygu bod ein holl aelodau wedi cymeradwyo cynnig o blaid masnach deg, a byddwn yn prynu ac yn hybu nwyddau masnach deg drwy ein gwasanaethau arlwyo a'n cyfarfodydd.

Hefyd rydym yn rhan o grŵp masnach deg Sir Gaerfyrddin sy'n gweithio tuag at ennill statws masnach deg ar gyfer Sir Gaerfyrddin gyfan.

Dolenni cyswllt:  http://www.fairtradewales.com

Tudalen wedi ei diweddaru ar 16/2/2012