Cafodd y Canllaw hwn ei lunio gan Dîm Datblygu Cynaliadwy y Cyngor mewn cydweithrediad ag Antur Teifi, a wnaeth yr ymchwil wreiddiol.
Mae’r Canllaw i Fyw'n Gynaliadwy yn Sir Gaerfyrddin yn ffynhonnell gyfeirio hwylus, gan roi braslun o'r holl faterion sy'n rhan o ddatblygu cynaliadwy, ac yn awgrymu rhai camau y gall unigolion, a grwpiau eu cymryd i wneud cyfraniad mwy cadarnhaol i fyw'n gynaliadwy yn Sir Gaerfyrddin.
Mae'r canllaw'n ymdrin â holl amrywiaeth y dewisiadau mae pobl yn eu gwneud yn eu bywyd pob dydd, sy'n cael rhywfaint o effaith ar eu hamgylchedd. Yn ogystal â gwybodaeth am ailgylchu a chadwraeth adnoddau, mae'r canllaw hefyd yn cynnwys gwybodaeth o safbwynt lleol am fyw’n iach, addysg amgylcheddol, cyfranogiad cymunedol, a materion ariannol 'moesol'.