English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 31/3/2009
Sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn Sir Gynaliadwy 

Yn Fforwm Blynyddol Partneriaeth Sir Gaerfyrddin yn 2007, llofnododd arweinwyr y sector cyhoeddus ac arweinwyr cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i'r sir.

Llofnodwyd Datganiad gan gynrychiolwyr y Bwrdd Gwasanaethau Lleol (Cyngor Sir, Ymddiriedolaeth GIG, Bwrdd Iechyd Lleol, Heddlu Dyfed-Powys, Asiantaeth yr Amgylchedd, Coleg y Drindod, Coleg Sir Gâr, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin a sefydliadau gwirfoddol) er mwyn sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn sir mwy cynaliadwy. 

Rhoddwyd anerchiad i'r Fforwm gan Jonathon Porritt (Fforwm ar gyfer y Dyfodol a chadeirydd y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy) a siaradodd am her newid hinsawdd.  Mae Partneriaeth yr Amgylchedd Sir Gaerfyrddin wedi cael y cyfrifoldeb o oruchwylio datganiad o fwriad y Bwrdd Gwasanaethau Lleol sef "sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn sir mwy cynaliadwy."

Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn cynnwys 8 prif sefydliad sy'n bartneriaid ac mae pob un o'r rhain wedi ymrwymo i 5 thema'r datganiad:

  • Arbed Adnoddau: Lleihau cymaint â phosibl ar ddefnyddio adnoddau yn ddiangen drwy leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff
  • Arbed Ynni:  Lleihau'r ynni rydych yn ei ddefnyddio a bod yn fwy effeithlon wrth ddefnyddio ynni
  • Teithio'n Synhwyrol: Lleihau'r angen am gludo pobl a nwyddau
  • Siopa'n Foesol: Prynu nwyddau masnach deg a nwyddau sydd wedi eu cynhyrchu'n lleol 
  • Gofalu am eich Ardal: Gwarchod a gwella adeiladau a'r amgylchedd naturiol 

Mae pob partner o'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol wedi cytuno ymhellach i fesur y cynnydd a wna i leihau'r effeithiau; gweithio mewn partneriaeth i godi ymwybyddiaeth am faterion datblygu cynaliadwy ymhlith ei staff a'i gymunedau; ac, adrodd y cynnydd a wnaed yn flynyddol i Fforwm Blynyddol Partneriaeth Sir Gaerfyrddin.

Cliciwch yma i weld sut maen nhw'n dod yn eu blaenau

Gwnewch addewid… dolen gyswllt ffurflen ar-lein