Mae’n ofynnol dan y gyfraith i bob safle bwyd (gyda rhai eithriadau) gael ei chofrestru gyda'r awdurdod lleol. Mae hyn er mwyn sicrhau y gellir gorfodi deddfwriaeth ar fwydydd, er lles a diogelwch y prynwr.
I gofrestru’ch safle bwyd, dylech lawrlwytho a llenwi'r Ffurflen Cofrestru Safle Bwyd. Ni ellir gwrthod cofrestru, ac nid oes tâl.
Ar ôl llenwi'r ffurflen, dylid ei hanfon yn ôl i'r cyfeiriad priodol:-
Am fusnesau sy'n gweithredu yn ardal Caerfyrddin:
Adain Gwasanaethau Masnachol
Adran Gofal Cymdeithasol, Iechyd, a Thai
3 Heol Spilman
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 1LE
Am fusnesau sy'n gweithredu yn ardal Llanelli:
Adain Gwasanaethau Masnachol
Adran Gofal Cymdeithasol, Iechyd, a Thai
3ydd Llawr
Tŷ Elwyn
Llanelli
Sir Gaerfyrddin
SA15 3AP