O dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, mae angen fel arfer i sŵn fod yn broblem gyson, sydd yn amharu'n sylweddol ar eich lles, cysur, neu ddefnydd o'ch eiddo cyn y gellir tybio ei fod yn niwsans statudol.
Gall sŵn a dybir i fod yn niwsans statudol ddod o dŷ cymydog, o fangre masnachol neu ddiwydiannol lleol, neu o gerbydau neu offer sefydlog yn y stryd.
Beth yw'r broses o wneud cwyn am sŵn.
Pan gyflwynir cwyn i'r Cyngor am sŵn, caiff y gwyn ei harchwilio gan Swyddogion Iechyd Amgylcheddol a Swyddogion Technegol o Adran Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus y Cyngor
Os ceir fod cwyn yn ddilys, gellir rhoi rhybudd diddymiad am y niwsans o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Gall hyn fynnu fod y sŵn yn cael ei atal yn gyfan gwbl, neu ei fod yn cael ei gyfyngu i amseroedd penodol yn ystod y diwrnod.
Rhoddir y rhybudd i'r sawl sy'n gyfrifol am y sŵn, ac mae gan y person hwnnw hawl i apelio o fewn 21 diwrnod i ddyddiad derbyn y rhybudd.
Os bydd y person a gafodd y rhybudd yn methu â chydymffurfio, cyflawnir trosedd. Am droseddau'n ymwneud â mangre domestig, caiff yr ynadon osod dirwy o hyd at £5000, gyda dirwy ymhellach o £500 y diwrnod am bob diwrnod y mae'r drosedd yn parhau. Os bydd y drosedd ar fangre diwydiannol, masnachol, neu fusnes, uchafswm y ddirwy yw £20,000.
Fodd bynnag, mae gan y Cyngor hawl i fynediad i fangre i sicrhau atal niwsans sŵn. Yr enghraifft fwyaf cyffredin o ddefnyddio'r hawl hwn yw er mwyn atal systemau Larwm Byrgleriaeth sy'n canu'n ddiachos.