Pridiannau Tir Lleol
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 21/1/2011
Pridiannau Tir Lleol 

 

Darperir y Gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol ar gyfer y sawl sy'n prynu eiddo neu dir yn ardal Cyngor Sir Caerfyrddin.

Pwrpas y gwasanaeth yw datgelu gwybodaeth i'r prynwr posibl a allai effeithio ar eiddo neu lain o dir penodol.

Bob tro y caiff eiddo neu ddarn o dir ei brynu, ei brydlesu neu ei brisio, anfonir chwiliad at yr Awdurdod Lleol.

Mae'r Chwiliad yn datgelu unrhyw faterion sydd wedi cael eu cofrestru fel Pridiant Tir Lleol, neu wybodaeth sydd gan y Cyngor y gallai'r prynwr fod eisiau gwybod amdani.

Mae'r Uned Pridiannau Tir Lleol yn cadw cofrestr sy'n cael ei diweddaru yn gyson er mwyn darparu atebion i geisiadau Chwiliadau.


Ein Helpu Ni i'ch Helpu Chi
Er mwyn inni allu delio â'ch chwiliadau yn brydlon, mae angen eich help chi arnom ni. Wrth gyflwyno chwiliadau:-

  • A fyddech cystal â sicrhau fod y cynllun lleoliad Arolwg Ordnans (graddfa 1/2500) mwyaf diweddar yn cael ei gyflwyno gyda phob cais am chwiliad gyda ffiniau'r eiddo wedi'u marcio'n goch.
  • A fyddech cystal â chwblhau'r ffurflen CON29 yn gywir.  Caiff gwybodaeth ynghylch ffyrdd ychwanegol sef mân ffyrdd, ffyrdd cefn neu ffyrdd sy'n ffinio ei rhoi os cânt eu nodi drwy enw ym mocs 'C' neu os cyfeirir atynt a'u hamlygu ar y cynllun lleoliad sydd wedi'i gyflwyno yn unig.
  • A fyddech cystal â chynnwys eich cyfeiriad llawn ym mocs 'F'.
  • Nodwch nad ydym ni'n ateb Rhan 2 Ymholiad Dewisol 4.

Os oes angen copi o ddogfen arnoch, a fyddech cystal ag ysgrifennu neu anfon ffacs at yr Uned Pridiannau Tir Lleol ac amgáu copi o'r Atodlen berthnasol o ateb LLC1.

Nid yw'r Uned Pridiannau Tir Lleol yn cadw gwybodaeth ynghylch materion sy'n ymwneud â Phriffyrdd, Cynllunio ac Iechyd yr Amgylchedd. Felly, er mwyn arbed oedi diangen, a fyddech cystal â chysylltu â'r Adrannau hynny os oes angen cymorth pellach arnoch. Mae'n bosibl y codir tal am gostau gweinyddol neu lungopïo.

 

 

 
Manylion Cysyllt
 

Pridiannau Tir Lleol
Llinell Uniongyrchol: 01267 224075
Rhif ffacs: 01267 224695 
E-bost: Pridiannau Tir