Mae miloedd o ymwelwyr y flwyddyn yn heidio i dde orllewin Cymru i ddarganfod prydferthwch rhyfeddol Parc Arfordirol y Mileniwm.
Mae pawb sy’n dod i’r Parc arobryn yn gadael gydag atgofion melys o’i faint a’i harddwch.
Mewn cwta 10 mlynedd, cafodd y 22 cilomedr o arfordir ar hyd glannau gogleddol Aber yr Afon Llwchwr eu trawsnewid yn gasgliad unigryw o atyniadau ymwelwyr, cynefinoedd bywyd gwyllt a chyfleusterau hamdden. Crëwyd y Parc i ddathlu dyfodiad y mileniwm newydd a chafodd ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol, Cyngor Sir Caerfyrddin, cyn Awdurdod Datblygu Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol a’r Undeb Ewropeaidd.
Y nod oedd trosi dros 1,000 hectar o anialwch diwydiannol yn dirlun trawiadol fyddai’n ategu at ac yn cyfoethogi prydferthwch naturiol yr aber ei hun. Roedd yn brosiect enfawr ond mae’r canlyniadau’n rhyfeddol. Lloriwyd dros 200 mlynedd o gam-drin diwydiannol ac fe grëwyd paradwys o barctir yn ei le.
Erbyn hyn mae pobl yn llifo i’r Parc am bob math o resymau – i fynd am dro, i gymryd rhan yn y llu o ddigwyddiadau gwahanol, i fwynhau gweithgareddau hamdden neu i wneud dim mwy nac eistedd a gwylio’r byd yn mynd heibio.
Yng nghalon y Parc Arfordirol saif adeilad eiconig Y Ganolfan Ddarganfod, sy’n gyfle i ymwelwyr ddod i wybod am yr atyniadau hamdden sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin yn un o’r lleoliadau mwyaf ysblennydd yn y sir.
A hithau’n edrych allan dros draeth Llanelli ac yn cynnig golygfeydd panoramig o Aber y Llwchwr a Phenrhyn Gŵyr, mae’r Ganolfan Ddarganfod yn fan galw cyntaf i ymwelwyr ac yn fan ymlacio perffaith i bobl sy’n teithio trwy’r Parc.
