Mae’r tîm Adfywio Ffisegol wedi gweithio ar sawl datblygiad i greu lle ar gyfer swyddfeydd, yn cynnwys:
Canolfan Fenter Llynnoedd Delta

Canolfan defnydd cymysg fodern ym Morlan Elli yw Canolfan Fenter Llynnoedd Delta. Mae’r unedau diwydiannol a’r swyddfeydd yn cynnig popeth sydd ei angen ar fusnes newydd a phrysur yn yr economi heddiw.
Mae telerau rhentu hyblyg a chystadleuol ar gael mewn amgylchedd modern. Mae gan y ganolfan fenter gymysgedd o swyddfeydd (320 troedfedd sgwâr) ac unedau diwydiannol modern (rhwng 628 a 2000 troedfedd sgwâr), derbynfa wedi ei rheoli, sawl ystafell bwyllgora, digon o lefydd parcio, a chyngor busnes a chymorth hyfforddiant ar y safle. Mae’r cyfan wedi ei leoli mewn cymuned fusnes fywiog ac mae’r cyfuniad cytûn sydd ym Morlan Elli yn golygu bod yr amgylchedd gwaith yn ffynnu.
West End
Swyddfeydd o ansawdd uchel ar gyrion canol tref Llanelli yw West End. Nod datblygiad ‘Iard West End’, sy’n brosiect gwerth £1 filiwn, yw ateb y galw lleol am swyddfeydd modern o’r radd flaenaf a chyfrannu at y gwaith sydd ar y gweill i adfywio canol tref Llanelli.
Cafodd y chwe swyddfa, a ddatblygwyd gan Means Renewal Limited - cwmni a sefydlwyd gan ddau ddyn busnes lleol sef Peter Williams a Paul Silcox, gymorth drwy Grant Datblygu Eiddo gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae ‘Iard West End’ wedi ei hadeiladu yn unol â safonau amgylcheddol uchel ac mae wedi trawsnewid yr hyn a fu unwaith yn safle diffaith ar un o’r prif byrth i Lanelli.
Y Mwnt
Mae Canolfan Gweithredu Gwirfoddol y Mwnt wedi'i lleoli ar safle amlwg ym mhen uchaf Rhiw’r Castell, ger Neuadd y Sir yng nghanol Caerfyrddin.
Cafodd yr adeilad hwn ei godi yn lle'r adeilad gwreiddiol rhestredig a oedd wedi mynd â'i ben iddo. Gan fod yr adeilad mewn ardal gadwraeth roedd yn rhaid cael Caniatâd Adeilad Rhestredig, a chafwyd ymgynghoriad cyhoeddus cyn cymeradwyo dyluniad yr adeilad.
Mae'n adeilad pwrpasol ar gyfer swyddfeydd, a gynlluniwyd yn benodol at ddibenion Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS). Corff a noddir gan Gyngor Sir Caerfyrddin yw CAVS, sy’n darparu 782 metr sgwâr o arwynebedd llawr a ddefnyddir fel swyddfeydd, ystafelloedd cyfarfod, llyfrgell, ystafell TG, a stiwdio recordio. Mae'r cynllun yn cynnwys cyfleusterau helaeth ar gyfer cleientiaid y sefydliadau gwirfoddol sydd ag anabledd corfforol neu anabledd o ran eu golwg. Mae’r Mwnt yn gweithredu fel canolfan yn y dref y gall gwasanaethau gwirfoddol ei defnyddio fel man 'galw heibio' a chyfleuster i ddefnyddio ystafelloedd cyfarfod a swyddfeydd.
Datblygwyd Canolfan Gweithredu Gwirfoddol y Mwnt drwy bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a CAVS, gyda chyllid gan y Rhaglen Amcan 1 Ewropeaidd, y Loteri Fawr, a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am fwy o wybodaeth ar eiddo'r cyngor sydd i gael i'w rhentu ffoniwch y tîm Eiddo Corfforaethol ar 01267 246250