
Dros y 2–3 blynedd nesaf bydd mwy na £40 miliwn yn cael ei fuddsoddi yng nghanol tref Llanelli, sef buddsoddiad a fydd yn cynnwys ailddatblygu Plas Llanelly, ailwampio Llyfrgell Llanelli, a’r theatr newydd a datblygiad Porth y Dwyrain. Bydd prosiect ADREF yn “gonglfaen” a ddaw â phob un o elfennau cynllun canol y dref ynghyd a’u cryfhau. Nod pennaf y prosiect fydd gwneud y dref yn fwy cynaliadwy drwy ysgogi’r sector preifat i fuddsoddi ynddi a thrwy gynnig gwell canol tref i’r gymuned gyfan. Bydd hyn yn gwneud yr ardal yn fwy llewyrchus ac yn cyfrannu’n sylweddol at ei thwf economaidd.
Mae 3 elfen i brosiect ADREF:
Elfen 1 – Pecyn o welliannau amgylcheddol ac o welliannau mynediad yn y dref ac o’i hamgylch, a fydd yn gwella ansawdd y llecynnau cyhoeddus ac yn gwella nodweddion arbennig a naws unigryw canol y dref. Nod y gwelliannau amgylcheddol fydd:
- Gwella’r llecynnau cyhoeddus yng nghanol y dref ac o'i hamgylch
- Gwella’r pyrth allweddol sy'n arwain i ganol y dref
- Gwella’r cysylltiadau o ran y llwybrau cerdded/beicio rhwng canol y dref a’r cymunedau o gwmpas y dref.
- Creu cyhoeddusrwydd ar gyfer y prosiect i hybu'r weledigaeth ac i ddarparu gwybodaeth ynghylch adfywio Llanelli.
Elfen 2 – Pecyn o gymorth ariannol i’r sector preifat er mwyn annog gwelliannau i eiddo. Mae dau fath o gymorth ar gael:
- Grant Gwella Trefi - er mwyn annog gwelliannau i du blaen eiddo masnachol mewn ardaloedd allweddol.
- Grant Datblygu Eiddo (PDG) – er mwyn annog creu arwynebedd llawr newydd a pharod i fusnesau ar safleoedd diffaith (yn unol â safon ardderchog BREEAM), neu adnewyddu eiddo adfeiliedig yng nghanol y dref (yn unol â safon dda BREEAM)
Elfen 3 – Sefydlu Canolfan Cynhwysiad Economaidd. Prif nod y Ganolfan yw ennyn diddordeb y bobl sydd wedi ymbellhau fwyaf o'r farchnad lafur ac sy'n economaidd anweithgar. Bydd y Ganolfan hefyd yn darparu mynediad i hyfforddiant a gwybodaeth ynghylch ystod o faterion er mwyn gwella’r cyfleoedd economaidd i’r bobl dan sylw a hynny mewn un man cyswllt.
Cadwch eich llygaid ar agor am y ganolfan wybodaeth sy'n cael ei sefydlu yng nghanol y dref – ymwelwch â ni i weld beth sy'n digwydd.
Manylion Cyswllt
Cysylltwch â Simon Rees: 01554 742173 SCRees@sirgar.gov.uk neu Michael Morgan:
01554 742587 MiAMorgan@sirgar.gov.uk

