Cross Hands
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cross Hands 

 
Gorllewin Cross Hands (Tip y Gorllewin)

Nod y prosiect yw sefydlu a datblygu partneriaeth gyda'r sector preifat i ddatblygu’r cynlluniau adfywio ar gyfer Tip y Gorllewin. Mae’r safle datblygu yn dir llwyd mewn man strategol ger yr A48 a chanol pentref Cross Hands. Bydd defnydd cymysg i’r ailddatblygiad hwn a fydd yn cynnwys siop fwyd newydd, ardaloedd preswyl, cyfleusterau gofal iechyd gan gynnwys cartref gofal a chanolfan feddygol newydd, swyddfeydd, mannau hamdden a mannau agored, defnydd cymunedol, a chanolbwynt trafnidiaeth newydd.

Dwyrain Cross Hands

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwriadu datblygu safle cyflogaeth strategol yn Nwyrain Cross Hands  mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Bydd y prosiect yn cynnig lleiniau o dir a wasanaethir yn llawn, i fodloni gofynion busnesau brodorol a lleol sydd am gychwyn neu ehangu, a bydd hefyd yn cynnig cyfleoedd mewnfuddsoddi.

Bydd y prosiect yn darparu’r seilwaith ffisegol sy’n angenrheidiol i Sir Gaerfyrddin ddatblygu economi lleol cystadleuol, a bydd yn darparu cyflenwad digonol o dir cyflogaeth a fydd yn diwallu’r galw dros y 10–15 mlynedd nesaf.

Bydd camau allweddol y prosiect yn cynnwys:

  • Prynu’r tir 
  • Cynllunio manwl
  • Cael caniatâd cynllunio
  • Sefydlu’r seilwaith i gynhyrchu safle parod i’r sector preifat ddatblygu lleoedd cyflogaeth/ busnes.

Parc Bwyd Cross Hands

Parc Bwyd Cross Hands yw'r ganolfan ragoriaeth ddynodedig gyntaf ar gyfer technoleg bwyd yng Nghymru gyfan. Mae’r parc yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru, ac mae’n gwbl ganolog i strategaeth economaidd y sir. Mae'r parc mewn man da, yng nghalon sir sy’n fwrlwm o gynhyrchu bwyd ac mae llawer o gyflenwyr o safon yn y cyffiniau sy’n golygu bod llai o filltiroedd cynhyrchu bwyd. Mae’r Parc Bwyd a’r Unedau Meithrin Cynhyrchu Bwyd sy’n rhan ohono, yn darparu’r holl wasanaethau sy’n angenrheidiol ar gyfer yr holl brif weithgareddau prosesu bwyd. Mae digonedd o le yn y parc ac mae’r holl ffyrdd mynediad yno eisoes.

Dyna pam y mae cwmnïau o bwys wedi ymrwymo i feithrin eu busnesau yma. Mae Dawn Pac, sy’n gwmni o Iwerddon, wedi ehangu yma ddwywaith, er bod dewisiadau a lleoliadau eraill ar gael iddo, a bellach mae cyfleuster prosesu bwyd y cwmni yn 200,000 o droedfeddi sgwâr, ar 20 o 50 erw’r Parc Bwydydd. 


Dim ond un safle mewn portffolio o safleoedd datblygu yw Parc Bwyd Cross Hands, y mae’r cyfan ohonynt funudau’n unig o’r M4 gan olygu bod gweithlu medrus a niferus o fewn pellter gyrru byr. Mae cyfanswm o £50 miliwn wedi cael ei fuddsoddi yma. Y nod yw darparu cyfleoedd i gynhyrchwyr bwyd a busnesau cynorthwyol ategol ychwanegu gwerth at y cynnyrch amrwd.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i'r wefan: www.parcbwydcrosshands.com  

Parc Bwyd Cross Hands

Tudalen wedi ei diweddaru ar 31/10/2011
 
Manylion Cysyllt
 


Gorllewin Cross Hands

Cyril Davies
Ymgynghorydd Eiddo

CyDavies@carmarthenshire.gov.uk
01267 246261

Dwyrain Cross Hands

Steffan Jenkins
Rheolwr Prosiect Adfywio Ffiesgol 

01554 744375
SHGJenkins@carmarthenshire.gov.uk