Morlan Elli
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Morlan Elli 

 

Mae Cyd-fenter Arfordir Llanelli rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin yn bartneriaeth flaenllaw sy’n cyflawni strategaeth Adfywio uchelgeisiol ar gyfer Morlan Elli.

Mae’r strategaeth yn cynnwys cynlluniau ar gyfer sawl lleoliad ar hyd a lled y darn hwn o arfordir De-orllewin Cymru, a chafodd llawer ohonynt eu cwblhau’n barod.

Cymerwyd camau mawr ymlaen ar nifer o’r safleoedd hyn, gan gynnwys buddsoddi sylweddol o ran seilwaith; ffordd gyswllt yr arfordir; datblygiad preswyl yn Noc y Gogledd a Machynys; cwrs golff Nicklaus; datblygiad swyddfeydd Dragon 24 yn Noc y Gogledd; adnewyddu’r harbwr ac adeiladu a gosod 100% o Barc Dyfaty – y cyfan ym Mhorth Tywyn.
Mae rhannau o Forlan Elli hefyd yn gymwys i dderbyn grantiau datblygu adeiladau trwy Gronfa Datblygu Eiddo De-orllewin Cymru ar gyfer datblygu swyddfeydd ac unedau diwydiannol parod.
Datblygu a buddsoddi gofalus fu conglfaen yr adfywio yn yr ardal, ynghyd â ffrwyth gweladwy i lafur y sawl sydd eisiau buddsoddi yma – mae prosiectau yn cael eu cynllunio, eu gweithredu a’u cyflawni mewn gwir bartneriaeth rhwng y buddsoddwr a’r Gyd-fenter.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.llanelli-waterside.co.uk

Tudalen wedi ei diweddaru ar 31/10/2011
 
Manylion Cysyllt
 


Steffan Jenkins

01554 744375
SHGJenkins@carmarthenshire.gov.uk