Ardal Adfywio Cymoedd y Gorllewin
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Ardal Adfywio Cymoedd y Gorllewin 

 

Y Cymoedd - Calon ac Enaid Cymru

Yn 2009 cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) bod Cymoedd y Gorllewin yn cael eu dynodi yn Ardal Adfywio fel modd o sicrhau adfywio cynaliadwy ar draws pum ardal awdurdod lleol. Mae Dyffryn Aman a Chwm Gwendraeth yn cael eu cynnwys o fewn ffiniau’r rhaglen ynghyd ag ardaloedd yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr a Phowys.
Mae cyllid wedi'i dargedu tuag at brosiectau strategol o dan nifer o themâu allweddol ar draws yr ardal adfywio ynghyd â dyraniad ar gyfer prosiectau adfywio cymunedol. Mae Fforwm Dyffryn Aman a Chwm Gwendraeth wedi cael ei sefydlu gydag amrywiaeth o gynrychiolwyr o wahanol sectorau yn cael gwahoddiad i fynychu. Mae'r Cyngor wedi paratoi Cynllun Adfywio Ardal y Cymoedd ar gyfer pob dyffryn a chwm, sy'n cynnwys tystiolaeth ystadegol sy’n  tynnu sylw at ardaloedd o angen ac amddifadedd. Gofynnwyd i aelodau'r Fforwm gymeradwyo'r cynllun adfywio ac anfonwyd gwahoddiad i Grwpiau Cymunedol yn gofyn am brosiectau a fyddai'n mynd i'r afael â'r materion hyn. Y prosiectau yma yw sail y cynllun gweithredu. Mae Tîm Prosiect Llywodraeth Cymru yn ystyried y cynigion ar gyfer prosiectau ac yn blaenoriaethu cyllid yn unol â hynny.

Bydd y cynllun adfywio yn ddogfen waith, a bydd y tîm yn y Cyngor yn cynnig cyngor, arweiniad a chymorth i grwpiau cymunedol i ddatblygu a chyflwyno’r prosiectau a restrir yn y cynllun gweithredu.

Hyd yn hyn mae £ 2,300,000 o gyllid wedi'i sicrhau ar draws y sir. Mae'r prosiectau a gymeradwywyd yn mynd i'r afael ag ystod o faterion sy'n effeithio ar Ddyffryn Aman a Chwm Gwendraeth. Mae rhai o'r prosiectau cyfredol yn cynnwys:

Cei Cydweli

Eiddo Cyngor Sir Caerfyrddin ar y cyd â Chyngor Tref Cydweli yw Cei Cydweli a’r 21 erw o dir o’i amgylch. Mae'r ardal yn cynnwys cymysgedd o dreftadaeth ddiwydiannol, cyfleoedd amgylcheddol ac ymdeimlad o le. Bydd yr awyr agored iachus a bywyd gwyllt cyfoethog y cei, ynghyd â’r dref hanesyddol gyfagos yn cynnig pecyn deniadol iawn i ymwelwyr. Mae angen ailfywiogi’r "trysor cudd"  hwn i ychwanegu at yr atyniadau eraill yng Nghydweli.

Bydd gwelliannau i'r ardal yn cynnwys meysydd parcio, mynediad gwell, tirlunio, mannau picnic a chysgodfannau.

Adeilad y Palais, y Garnant

Mae safle’r Palais gynt yn y Garnant wedi dioddef yn sgil diffyg buddsoddiad dros y blynyddoedd ac, o ganlyniad, mae’r safle yn awr mewn cyflwr gwael. Mae'r neuadd ddawns gynt yn dadfeilio, yn anharddu’r ardal ac yn rhoi argraff wael ohoni.

Prynwyd y safle gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyda chymorth gan gynllun Ardal Adfywio Cymoedd y Gorllewin, gyda golwg ar ddymchwel yr adeilad presennol a chreu amwynder allweddol syml a gwelliannau amgylcheddol at ddefnydd y cyhoedd.

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Sam Palmer drwy ffonio 01267 590277 neu e-bostiwch SEPalmer@sirgar.gov.uk

 

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 31/10/2011
 
Manylion Cysyllt
 


Sam Palmer
Swyddog Datblygu Cymoedd y Gorllewin

01267 590277
SEPalmer@sirgar.gov.uk