
Mae'r Tîm Datblygu Busnesau yn Is-adran Datblygu Economaidd y Cyngor yn rhoi cymorth busnes uniongyrchol ynghylch:-
-
Ymdrin â phob math o ymholiadau busnes, a bod yn gyfrwng i bobl gael cymorth busnes yn y rhanbarth.
-
Rhoi cyngor busnes i gwmnïau brodorol sy'n tyfu, ynghyd â chyfleoedd iddynt gael cymorth buddsoddi.
- Mynediad i reoliadau a deddfwriaeth
Darperir gwasanaethau ar y cyd ag adrannau eraill y Cyngor Sir, megis y gwasanaethau Safonau Masnach, Cynllunio, Canolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru, a Chymorth Busnes Cymunedol, yn ogystal â rhwydwaith o sefydliadau o'r sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys asiantaethau menter lleol a Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chroeso Cymru.
Drwy Raglen Menter Gymunedol INTERREG IIIA, sef y Rhwydwaith Celtaidd Cymorth Menter a Busnes, mae'r Uned Datblygu Busnesau wedi llunio tri llyfryn i gynorthwyo pobl sy'n dymuno cychwyn eu busnes eu hunain neu sydd â busnes eisoes.
Lawrlwythwch y Llyfrynnau Busnes drwy glicio ar y dolenni cyswllt yn y ddewislen lawrlwytho sydd ar y dde.