Gwasanaeth newydd am ddim yw Cymorth Hyblyg i Fusnes, sy'n cael ei gynnal mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin, a nod y gwasanaeth yw rhoi cymorth i'r sawl sydd am ddechrau, cynnal, neu ddatblygu busnes unrhyw le yng Nghymru.
Gallwn ni roi'r holl gymorth sydd ei angen arnoch i ddechrau neu i ddatblygu eich busnes, gan gynnwys dewis enw, cael cyllid, rhoi hyfforddiant i staff, a marchnata. Yn ogystal â rhoi manylion a gwybodaeth am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael i fusnesau ac i unigolion, mae modd gwneud apwyntiadau ar gyfer gwasanaethau cyngor busnes arbenigol a chyffredinol.
Does dim gwahaniaeth ai cwmni sefydledig, unig fasnachwr, menter newydd, neu gyflogwr sy'n cyflogi cannoedd ydych, mae Llygad Busnes yma i roi cymorth i chi.
Mae eich canolfan Cymorth Hyblyg i Fusnes wedi ei lleoli yn y Ganolfan Datblygu Busnesau Cefn Gwlad, Nant-y-ci, Caerfyrddin, ac mae'n rhoi cymorth i fusnesau ledled Sir Gaerfyrddin.
I gael rhagor o wybodaeth am Gymorth Hyblyg i Fusnes, mae dolen i gysylltu â'r wefan ar gael ar ochr dde'r dudalen.