A ydych yn grŵp gwirfoddol, cymunedol neu elusennol y mae angen cymorth arnoch?
A oes gennych syniad nad ydych yn gwybod sut i'w ddatblygu?
A ydych yn chwilio am gyllid i roi eich prosiect ar waith?
Mae'r 'Biwro Cymunedol' yn 'Gyswllt Cyntaf' lle mae modd i grwpiau ac unigolion ffonio rhif canolog ac yna cael eu cyfeirio at y darparwr perthnasol, boed yn swyddogion rhanbarthol y Cyngor Sir neu'n gorff sy'n bartner. Gall Biwro Cymunedol y Cyngor Sir roi cyngor i grwpiau cymunedol am ffynonellau posibl o gyllid grant a helpu grwpiau cymunedol i rwydweithio a chael profiad o enghreifftiau eraill o arferion da. Bydd y Biwro Cymunedol yn helpu grwpiau elusennol, gwirfoddol, a chymunedol yn Sir Gaerfyrddin i gael cymorth, cyngor, a grantiau'n gyflym, a bydd yn ymateb i'ch anghenion unigol gan eich helpu i gyrraedd eich nod yn y ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol.
Dod o hyd i gyllid - Gallwn eich helpu â'r dryswch sy'n perthyn i hyn. Mae gennym y wybodaeth ddiweddaraf am raglenni cyllido, mynediad i'r gwefannau diweddaraf ar gyfer dod o hyd i grantiau, a'r gallu i glustnodi'r grantiau mwyaf priodol ar gyfer eich prosiect. Hefyd mae gennym gysylltiadau gwych â Chanolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru o ran materion cyllido Ewropeaidd, a bydd ein Swyddogion Prosiectau a Chyllid Cymunedol yn gweithio gyda chi i baratoi ceisiadau grant ac i'ch helpu i reoli'r arian grant a gewch.
Cysylltwch â'r Biwro Cymunedol drwy ffonio 01269 590216 i gael cyngor a chymorth, i glustnodi ffynonellau cyllid posibl, neu i'ch cyfeirio at fan arall sydd â'r arbenigedd perthnasol i'ch helpu.
Digwyddiadau
Ffair Gyllid Sir Gar 22/02/2012
Dyddiad: Dydd Mercher Chwefror 22ain, 10:301m-3:30pm
Lleoliad: Canolfan Delme Thomas Centre, Stadiwm y Scarlets, Llanelli,
I gofrestru, o register your attendance, please cliciwch yma.