English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Rhaglen grant dwy flynedd Gwasanaethau a Themâu Gwledig 

Mae Rhaglen grant dwy flynedd Gwasanaethau a Themâu Gwledig sy’n anelu at adfywio cymunedau gwledig Sir Gaerfyrddin wedi dod i ben ar ôl rhoi cymorth i dros 116 o brosiectau yn y Sir.

Rhoddwyd tua £1.3 miliwn yn uniongyrchol i’r grwpiau dros gyfnod y rhaglen, a gafodd ei gweinyddu gan Gyngor Sir Caerfyrddin a’i hariannu’n rhannol gydag arian Ewropeaidd Amcan 1.

Nod yr arian hwn oedd helpu i adfywio cymunedau, diogelu swyddi a chreu swyddi eraill, rhoi hwb i dwristiaeth a’r economi leol, cefnogi’r celfyddydau a helpu busnesau gwledig.

Roedd y prosiectau a gafodd gymorth ariannol yn rhai amrywiol iawn: gosod rheiliau treftadaeth hardd mewn safle prydferth yn Llandeilo; helpu grwpiau i wneud gwelliannau pellgyrhaeddol i neuaddau megis Neuadd Penybont; cefnogi digwyddiadau megis Gwyl Lacharn a Gwyl Myrddin; gosod hysbysfyrddau a byrddau gwybodaeth sy’n helpu pobl i gysylltu â’i gilydd yn eu cymunedau.

Mae’r cynllun grantiau cymunedol nesaf ar waith erbyn hyn a’i nod yw adeiladu ar y llwyddiant a gafwyd eisoes trwy’r rhaglen RSTP.  Enw’r rhaglen newydd yw Partneriaeth ar gyfer Gweithredu Cymunedol (PACT), a chyfanswm y grant yw £6miliwn a neilltuir i grwpiau cymunedol dros gyfnod o bedair blynedd cyn dod i ben ym Mehefin 2008.

Nod y prif gronfa a elwir 1Gronfa yw ariannu prosiectau cymunedol newydd a blaengar, a fydd yn cyfrannu i ddatblygiad economaidd a chymdeithasol Sir Gaerfyrddin. Mae cynrychiolwyr cymunedol wrth law i helpu pobl wrth iddynt wneud ceisiadau am grant.


Tudalen wedi ei diweddaru ar 09/9/2008

 
Manylion Cysyllt
 
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddfa Gymunedol trwy ffonio 01269 590216.