English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cysylltiadau Busnes Allanol 

Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS)
www.acas.org.uk
Bwriad y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu yw hybu gwelliannau mewn sefydliadau ac ym maes gwaith drwy feithrin gwell cysylltiadau gwaith. Mae'n cynnig cymorth â chysylltiadau gwaith trwy ddarparu gwybodaeth gyfredol, cyngor annibynnol a hyfforddiant o safon uchel, gan weithio gyda chyflogwyr a gweithwyr i ddatrys problemau a gwella perfformiad. Gall cyflogwyr a gweithwyr gael cyngor am ddim o'r wefan hon neu drwy ffonio'r llinell gymorth. Hwyrach hefyd y byddai gan gyflogwyr ddiddordeb yn ein gwasanaethau mwy arbenigol sy'n cynnwys hyfforddiant, prosiectau yn y gweithle, cymodi a chyfryngu.

Grŵp Gweithgynhyrchu Sir Gaerfyrddin
www.cmg-wales.org
Mae hwn yn grŵp cydweithredol, deinamig o amrywiol gynhyrchwyr sy'n gweithio yng ngorllewin Cymru ac sydd wedi dod ynghyd gyda'r nod o weithio'n gynaliadwy a gwella busnes yn gyffredinol.  Gweithia'n bennaf â mentrau bach a chanolig eu maint ond y mae hefyd yn meithrin cysylltiadau â chwmnïau a sefydliadau mwy gan gryfhau'r gronfa o wybodaeth a phrofiad sydd ar gael i'r grŵp. Nod y bartneriaeth wirfoddol hon yw cynnig fframwaith sy'n fodd i'r cyrff sy'n perthyn iddi helpu'i gilydd. Trwy gyfrwng rhwydweithio gweithredol bydd y grŵp yn rhoi cyfeiriad, cymorth ac, yn bwysicaf oll, yr atebion i faterion cyffredin sy'n codi.

Tŷ'r Cwmnïau
www.tyrcwmniau.gov.uk
Prif swyddogaethau Tŷ'r Cwmnïau yw corffori a diddymu cwmnïau cyfyngedig; archwilio a chadw gwybodaeth am gwmnïau a gyflwynir yn unol â’r Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth gysylltiedig; a threfnu i’r wybodaeth hon fod ar gael i’r cyhoedd.

Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau
www.bis.gov.uk
BIS sy'n rhoi llais i fusnesau ym mhob rhan o'r Llywodraeth. Mae'r wefan yn cynnwys y newyddion diweddaraf, gwybodaeth ynghylch cyfraith busnes, sectorau busnes, materion sy'n effeithio ar ddefnyddwyr, materion yn ymwneud â chyflogaeth, cymorth o ran menter a busnes, Ewrop, rheolau masnach ac allforio, addysg, arloesi, datblygu economaidd rhanbarthol, gwyddoniaeth a sgiliau.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau
www.dwp.gov.uk/cymraeg/
Yn gyfrifol am wasanaethau cymorth a chyngor i bobl oedran gweithio, cyflogwyr, pensiynwyr, teuluoedd a phlant a phobl anabl.  Nodir manylion ynghylch y budd-daliadau a'r gwasanaethau a allai fod ar gael a'r drefn ymgeisio, ynghyd â chanolfan adnoddau a chanllawiau ar-lein sy'n cynnwys cymorth i gyflogwyr.

Yr Adran Arloesi, Prifysgolion a Sgiliau
www.dius.gov.uk
Mae'r adran hon yn dwyn ynghyd swyddogaethau dwy adran a’i rhagflaenodd sef cyfrifoldebau yr Adran Masnach a Diwydiant dros wyddoniaeth ac arloesi a chyfrifoldebau'r Adran Addysg a Sgiliau dros sgiliau, addysg bellach ac addysg uwch. Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth ynghylch swyddogaethau'r adran newydd, polisïau gwyddoniaeth, arloesi, addysg uwch, addysg bellach a sgiliau, ynghyd ag adroddiadau, cyhoeddiadau, ymgynghoriadau, trafodaethau, ymchwil, dadansoddiadau a dolenni cyswllt defnyddiol.

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
www.defra.gov.uk
Yr adran hon o lywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am yr amgylchedd, am fwyd a ffermio ac am faterion gwledig. Blaenoriaethau'r adran yw cynnal amgylchedd iach a naturiol, economi carbon isel cynaliadwy, sector ffermio ffyniannus a chyflenwad bwyd cynaliadwy, iach a diogel.

Envirowise
www.envirowise.gov.uk
Mae Envirowise yn cynnig cyngor a chymorth annibynnol, cyfrinachol, rhad ac am ddim i fusnesau'r Deyrnas Unedig ynghylch dulliau ymarferol o gynyddu elw, lleihau gwastraff a lleihau eu heffaith amgylcheddol.

Cymorth Hyblyg i Fusnes
www.business-support-wales.gov.uk
Mae'r wefan hon yn cynnig gwybodaeth i fusnesau yng Nghymru, gan gynnwys y canlynol: Cychwyn busnes; tyfu'r busnes, cyllido'r busnes, arloesi, safleoedd, masnach ryngwladol, yr amgylchedd, TGC, sgiliau, cyrsiau hyfforddiant busnes di-dâl a thendrau am gontractau sector cyhoeddus

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
www.food.gov.uk
Corff gwarchod diogelwch bwyd sy'n rhoi cyngor ynghylch Deddf Safonau Bwyd, bwyd wedi'i fewnforio, labelau, hylendid, cyfeiriadur bwyd ar-lein ac adran ar gyfer Cymru.

Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
www.hse.gov.uk
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn gweithio mewn amryw o feysydd yn cynnwys: llunio rheoliadau a'u hadolygu, ymchwil ac ystadegau a gweithredu'r gyfraith.

Cyllid a Thollau ei Mawrhydi
www.hmrc.gov.uk
Mae Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn gyfrifol am gasglu'r rhan fwyaf o ddigon o drethi yn ogystal â thalu credydau treth a budd-dal plant. Cyniga'r wefan wybodaeth ynghylch dyletswyddau o ran trethi, cychwyn busnes, budd-daliadau, yr isafswm cyflog cenedlaethol, hunanasesu, Yswiriant Gwladol, Talu Wrth Ennill (TWE), Treth Gorfforaethol, cyflogi gweithwyr newydd, TAW, mewnforio, allforio, tollau cartref a theithio.

Busnes Rhyngwladol Cymru (IBW)
www.ibwales.com
Mae'r corff hwn yn rhoi pob cymorth i fusnesau uchelgeisiol sy'n barod i ymuno â marchnadoedd byd-eang ac mae wedi datblygu casgliad o wasanaethau hyblyg i gynorthwyo cwmnïau yng Nghymru.  Gall ymgynghorwyr profiadol IBW eich helpu i glustnodi marchnadoedd tramor posibl ac ymchwilio iddynt; clustnodi partneriaid tramor posibl a chyfarfod â hwy; rheoli prosiectau rhyngwladol; datblygu strategaeth allforio bwrpasol;  dysgu am ddiwydiant, gwleidyddiaeth a chyfraith y wlad a dargedir.

Canolfan Byd Gwaith
www.jobcentreplus.gov.uk/jcpwelsh/ 
Un o asiantaethau'r llywodraeth yw Canolfan Byd Gwaith ac mae'n cynorthwyo pobl oedran gweithio i gamu o fudd-dal i waith ac yn helpu cyflogwyr i lenwi swyddi gwag. 

Gwerthwchigymru
www.sell2wales.co.uk/index.html?diablo.lang=cym
Menter Llywodraeth Cynulliad Cymru yw gwerthwchigymru a'i nod yw helpu busnesau bach a chanolig eu maint i weithio'n llwyddiannus â chleientiaid yn y sector cyhoeddus. Ers ei sefydlu, mae'r wefan wedi cyhoeddi hysbysiadau gwerth £5 biliwn ac mae nifer cynyddol o gyrff sector cyhoeddus yn hysbysebu yno gyda'r effaith fod tendrau'n fwy hygyrch. Mae'r wefan yn fodd ichi hyrwyddo eich cwmni, cysylltu â chyrff sector cyhoeddus sydd wedi'u cofrestru a cheisio cyngor.

Partneriaeth Bae Abertawe
www.swanseabaypartnership.com
 Aelodau Partneriaeth Bae Abertawe yw cyrff o’r sector cyhoeddus sy’n cydweithio i helpu busnesau i ffynnu yn y tymor hir yng Nghaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, ac Abertawe. Mae’r Bartneriaeth yn trefnu teithiau masnach blynyddol, seminarau a digwyddiadau busnes, ynghyd â Chynllun Gwobrau Busnes.

Siambr Fasnach Canolbarth a Gorllewin Cymru
www.mwwc.org.uk
Ffurfiwyd Mid and West Wales Chamber Limited drwy uno asiantaeth fenter sefydledig (Foothold) â Siambr Sirol (Sir Gaerfyrddin) er mwyn diwallu'r angen clir am siambr fasnach ranbarthol. Mae gan y siambr fwrdd gweithredol profiadol a thîm o fwy na 40 o bobl gymwys ac ymroddedig. Hyrwyddo buddiannau'r sector busnes yn y rhanbarth yw'r prif nod a hynny drwy gyfrwng cynrychiolaeth gref a darparu gwasanaethau a chymorth i fusnesau.

Supply2.gov.uk
www.supply2.gov.uk
Supply2.gov.uk yw porth swyddogol y llywodraeth at gyfleoedd i ennill contractau is eu gwerth.  Fe'i lluniwyd yn benodol i ddwyn sylw busnesau bychain at gyfleoedd i gael contractau sector cyhoeddus y mae eu gwerth, yn nodweddiadol, yn llai na £100,000.  Nod y porth yw dwyn prynwyr a chyflenwyr ynghyd mewn un man a'i gwneud yn haws i fusnesau a'r llywodraeth gydweithio.  Gall prynwyr sector cyhoeddus gyhoeddi hysbysiadau contract yn ddi-dâl ar y wefan a gall cyflenwyr sector preifat gofrestru'n ddi-dâl i gyrchu gwybodaeth ynghylch contractau.

Swyddfa Eiddo Deallusol y Deyrnas Unedig (UK-IPO)
www.ipo.gov.uk/cymraeg-wls.htm
Asiantaeth y llywodraeth sy'n gyfrifol am Eiddo Deallusol yn y Deyrnas Unedig. Nodau masnach, hawlfraint, dyluniadau a phatentau, geirfâu, canllawiau ynghylch gwneud cais, manteision, deddfwriaeth a chwilio'r cofnodion eiddo deallusol.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 08/7/2010