Sut yr ydym yn prynu
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Sut yr ydym yn prynu 


ERhaid i’r holl gontractau a wneir gan yr Awdurdod neu ar ei ran gydymffurfio â Chyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus yr Undeb Ewropeaidd, Deddfwriaeth Genedlaethol, Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau, Rheolau’r Weithdrefn Ddyfynbrisiau
a Rheolau Gweithdrefn Ariannol yr Awdurdod.

Mae’r cyngor yn dilyn rheolau contractau cyhoeddus yn ôl gwerth y contractau hynny.

Mae’r Uned Caffael Corfforaethol yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar gaffael, gan ddilyn y rheolau hyn o ran pob un o adrannau’r Cyngor. Dangosir isod y rheolau ar gyfer pob trothwy ariannol:

Cyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus yr Undeb Ewropeaidd

Mae’r Sector Cyhoeddus yn ymrwymedig, yn ôl y gyfraith, I ddilyn Cyfraith Ewrop ar weithgareddau caffael yn y Sector Cyhoeddus

Dylid mabwysiadu Cyfarwyddebau’r UE pan fydd y contractau dros drothwy penodol (gweler isod), a’r adeg honno dylid cynnal Ymarfer Tendro swyddogol yn unol â’r Cyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus Ewropeaidd.

Rhaid i gontractau sy’n uwch na’r trothwy hwn gael eu hysbysebu yng nghyfnodolyn swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU).

Adolygir y trothwyon ariannol Ewropeaidd o ran Caffael Cyhoeddus bob dwy flynedd. Daeth y gwerthoedd presennol canlynol i rym ar 1 Ionawr 2012: -

Cyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus yr Undeb Ewropeaidd
Contractau Nwyddau £173,934
Contractau Gwasanaethau £173,934
Contractau Gwaith Adeiladu a Pheirianneg £4,348,350

Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau

Os yw’r contract caffael yn werth mwy na £75,000 ond yn werth llai na’r trothwyon ariannol Ewropeaidd, bydd Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau yn gymwys a dylid cynnal proses dendro swyddogol.

Rheolau o ran Gweithdrefnau Dyfynbrisiau

Os yw’r contract caffael yn werth llai na £75,000 bydd Rheolau o ran Gweithdrefnau Dyfynbrisiau yn gymwys.


Rheolau o ran Gweithdrefnau Dyfynbrisiau

Gwerth
hyd at
£5,000

Dylai’r daliwr cyllideb fod yn fodlon y cafwyd y
gwerth gorau am yr arian, a bod gofal rhesymol
wedi’i gymryd i gael nwyddau a gwasanaethau o
safon ddigonol am bris cystadleuol.
Gwerth
rhwng
£5,000 a
£25,000
Dylid cael 3 dyfynbris o leiaf a dylid eu cadarnhau
ar bapur, drwy neges ffacs neu drwy neges e-bost.
Gwerth
rhwng
£25,000 a
£75,000
Dylid cael 3 dyfynbris ffurfiol o leiaf o ffynonellau
cystadleuol, wedi’u seilio ar yr un amodau
contract, ar yr un meini prawf gwerthuso ac ar yr
un dyddiad cau.

 


Tudalen wedi ei diweddaru ar 03/1/2012