ERhaid i’r holl gontractau a wneir gan yr Awdurdod neu ar ei ran gydymffurfio â Chyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus yr Undeb Ewropeaidd, Deddfwriaeth Genedlaethol, Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau, Rheolau’r Weithdrefn Ddyfynbrisiau
a Rheolau Gweithdrefn Ariannol yr Awdurdod.
Mae’r cyngor yn dilyn rheolau contractau cyhoeddus yn ôl gwerth y contractau hynny.
Mae’r Uned Caffael Corfforaethol yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar gaffael, gan ddilyn y rheolau hyn o ran pob un o adrannau’r Cyngor. Dangosir isod y rheolau ar gyfer pob trothwy ariannol:
Cyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus yr Undeb Ewropeaidd
Mae’r Sector Cyhoeddus yn ymrwymedig, yn ôl y gyfraith, I ddilyn Cyfraith Ewrop ar weithgareddau caffael yn y Sector Cyhoeddus
Dylid mabwysiadu Cyfarwyddebau’r UE pan fydd y contractau dros drothwy penodol (gweler isod), a’r adeg honno dylid cynnal Ymarfer Tendro swyddogol yn unol â’r Cyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus Ewropeaidd.
Rhaid i gontractau sy’n uwch na’r trothwy hwn gael eu hysbysebu yng nghyfnodolyn swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU).
Adolygir y trothwyon ariannol Ewropeaidd o ran Caffael Cyhoeddus bob dwy flynedd. Daeth y gwerthoedd presennol canlynol i rym ar 1 Ionawr 2012: -
| Contractau Nwyddau |
£173,934 |
| Contractau Gwasanaethau |
£173,934 |
Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau
Os yw’r contract caffael yn werth mwy na £75,000 ond yn werth llai na’r trothwyon ariannol Ewropeaidd, bydd Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau yn gymwys a dylid cynnal proses dendro swyddogol.
Rheolau o ran Gweithdrefnau Dyfynbrisiau
Os yw’r contract caffael yn werth llai na £75,000 bydd Rheolau o ran Gweithdrefnau Dyfynbrisiau yn gymwys.
|
Gwerth hyd at £5,000 |
Dylai’r daliwr cyllideb fod yn fodlon y cafwyd y gwerth gorau am yr arian, a bod gofal rhesymol wedi’i gymryd i gael nwyddau a gwasanaethau o safon ddigonol am bris cystadleuol. |
Gwerth rhwng £5,000 a £25,000 |
Dylid cael 3 dyfynbris o leiaf a dylid eu cadarnhau ar bapur, drwy neges ffacs neu drwy neges e-bost. |