Marchnadoedd nwyddau
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 07/5/2013
Marchnadoedd nwyddau 

Marchnadoedd Nwyddau

Mae'r Cyngor yn gweithredu marchnadoedd ledled Sir Gaerfyrddin, sy'n cynnig dewis eang o nwyddau, gan gynnwys caffis a stondinau sy'n gwerthu cig, pysgod, cawsiau arbenigol, nwyddau delicatessen, ffrwythau a llysiau ffres, dillad ffasiynol, hen bethau a llawer mwy.

Mae'r ddwy brif farchnad yng Nghaerfyrddin ac yn Llanelli yng nghanol y trefi, ac mae'r ddwy yn lleoedd diddorol lle ceir yr hen a'r newydd gyda'i gilydd.  Mae'r ddwy farchnad yn gyforiog o ddiwylliant Cymru, pentyrrau lliwgar o ffrwythau a llysiau ffres a stondinau yn gwerthu nwyddau defnyddiol a diddorol am brisiau rhesymol. Mae'r ddwy farchnad yn cynnig i siopwyr ddewis ac amrywiaeth aruthrol mewn man croesawgar a chyfeillgar.

Siopau a Marchnad Nwyddau Caerfyrddin

Carmarthen Market

Mae Neuadd y Farchnad ar agor 6 diwrnod yr wythnos, ac mae marchnad awyr agored bob dydd Mercher a phob dydd Sadwrn. Mae Caerfyrddin yn dref hanesyddol, un na ddylai unrhyw ymwelydd golli'r cyfle i ymweld â hi. Y dref yw calon Sir Gaerfyrddin, ac mae ganddi gysylltiadau da ag arfordir Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Oriau agor:

Dydd Llun – Dydd Sadwrn:  9:00am – 5:00pm

Neuadd y Farchnad Llanelli a'r siopau yng nghyffiniau'r farchnad

Llanelli Market

Yng nghanol y dref a lle mae digon o leoedd parcio y mae'r farchnad, sydd ar agor 6 diwrnod yr wythnos. Cynhelir marchnad ar y stryd bob dydd Iau a phob dydd Sadwrn. Ni chaniateir ceir yng nghanol y dref ac mae'n lle diogel i siopa, bwyta yn yr awyr agored, neu fynd am dro. Mae sinema a chanolfan hamdden yn y dref ac mae'n hawdd mynd oddi yno i Barc Arfordirol y Mileniwm. 

Oriau agor:

Dydd Llun – Dydd Sadwrn:  8:00am – 5:00pm

Uned Marchnad i'w Gosod

Uned Maint Rhent Telerau Manylion
E109 64tr.sg Trwy dendr Chwarterol Stondin gloi
G9 64tr.sg Trwy dendr Chwarterol Byrddau agored
G19 64tr.sg Trwy dendr Chwarterol Byrddau agored
G20 64tr.sg Trwy dendr Chwarterol Byrddau agored
H1-3 64tr.sg Trwy dendr Chwarterol Byrddau agored
H4-5 128tr.sg Trwy dendr Chwarterol Byrddau agored
H6-8 192tr.sg Trwy denr Chwarterol Byrddau agored

Y Farchnad Stryd yn Rhydaman

Cynhelir y farchnad bob dydd Gwener. Mae'n farchnad fach gyfeillgar ar gyrion canol y dref.

Marchnadoedd Awyr Agored Llandeilo a Llanymddyfri

Fe'u cynhelir bob dydd Gwener. Maent yn farchnadoedd bach a chyfeillgar mewn trefi hanesyddol a llawn bwrlwm.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Caerfyrddin a Llandeilo: Mr. Eifion Evans, Rheolwr Cynorthwyol y Marchnadoedd, 01267 228841

Llanelli a Rhydaman: Mr. Brian Fowler, Rheolwr Cynorthwyol y Marchnadoedd, 01554 773984

 
Manylion Cysyllt
 

Caerfyrddin a Llandeilo 01267 228841

Llanelli a Rhydaman 01554 773984