English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cymunedau yn Gyntaf  

Communities First Logo                         

 

Cymunedau yn Gyntaf 

Beth yw Cymunedau yn Gyntaf?

Rhaglen hirdymor gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw Cymunedau yn Gyntaf sy'n ceisio gwella cyfleoedd ac ansawdd bywyd yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

Sut mae Cymunedau yn Gyntaf yn gweithio?

Mae partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei ffurfio ar gyfer pob ardal leol. Mae'r aelodau o'r bartneriaeth yn cynnwys cynghorwyr lleol a staff o asiantaethau statudol megis yr awdurdod lleol, y Gwasanaeth Tân neu'r Heddlu; busnesau, grwpiau a chyrff gwirfoddol lleol megis y Cyngor Gwirfoddol Sirol; ac, yn bwysicaf oll, preswylwyr lleol.

Mae'r bartneriaeth yn llywio gwaith tîm o staff sy'n ymgynghori â'r gymuned i gael gwybod am y materion a'r blaenoriaethau lleol. Mae'r rhain yn cael eu cynnwys mewn cynllun gweithredu lleol sy'n pennu prif nodau'r bartneriaeth a'r gwaith y mae angen ei wneud i wella'r gymuned. Mae'r cysylltiadau rhanbarthol ar gyfer pob un o'r partneriaethau yn Sir Gaerfyrddin ar waelod y dudalen.

Beth yw gwaith Cymunedau yn Gyntaf?

Mae'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn mynd i'r afael â materion sydd angen sylw er mwyn gwella ansawdd bywyd yn yr ardal leol, fel y nodwyd gan y gymuned leol. Er bod pob cymuned yn wahanol, mae'r materion hyn yn cael eu dosbarthu'n eang i chwe thema gyffredin:

  • Tlodi Plant
  • Diogelwch Cymunedol
  • Addysg, Hyfforddiant a Sgiliau
  • Yr Amgylchedd
  • Iechyd a Lles
  • Swyddi, Busnes a Chreu Incwm

Wedyn mae'r bartneriaeth a'r tîm lleol yn gweithio gyda phartneriaid i wneud newidiadau yn yr ardal leol, drwy gynnwys aelodau o'r gymuned gymaint â phosibl yn y broses.

Ym mha ardaloedd y mae Cymunedau yn Gyntaf yn gweithio?

Glanymôr a Thŷ-isha – 01554 777850

Felin-foel – 01554 784847

Pantyffynnon – 01269 596821

Bigyn 4 – 01554 746990

 

Llwynhendy – 01554 780288

Y Tîm Cymorth Canolog – 01554 742164

Fel dewis arall, os hoffech chi wybod rhagor am Gymunedau yn Gyntaf edrychwch ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 
A oeddech chi'n gwybod bod y canlynol wedi cael ei gyflawni yn Sir Gaerfyrddin?

Yn 2008/10 bu Cymunedau yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin yn helpu cymunedau i dderbyn dros £2 filiwn o gyllid allanol.

Mae 74% o Lanelli yn rhan o ardal Cymunedau yn Gyntaf, sef tua 43,700 o breswylwyr. Mae tua 44,900 o breswylwyr yn rhan o ardaloedd y 5 partneriaeth.

Rhoddwyd 4440 o oriau gwirfoddoli gwerth £44,400 gan brosiect Dyledion a Budd-daliadau Pantyffynnon a Llanelli

Yn 2009/10 rhoddwyd cyfle i 12 o bobl ifanc gael hyfforddiant drwy Gronfa Swyddi'r Dyfodol yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn Sir Gaerfyrddin.

Yn 2009/10, cafodd 106 o grwpiau cymunedol gymorth gan Gymunedau yn Gyntaf yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ystod blwyddyn gyntaf y prosiectau Dyledion a Budd-daliadau, bu'r staff yn gweithio gyda 72 o wirfoddolwyr ac roedd 28 o'r rhain wedi dychwelyd i'r gwaith a 15 wedi dychwelyd i addysg amser llawn.

Hyd yn hyn, mae prosiectau Dyledion a Budd-daliadau yn Llanelli a Phantyffynnon wedi helpu aelodau o'r gymuned i fynd i'r afael â dyledion domestig gwerth £1.3 filiwn.

Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf

Mae Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf ar gyfer 2011/2012 bellach ar agor. Ers iddi gael ei sefydlu yn 2002, mae Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf wedi rhoi cymorth i dros 8,800 o grwpiau gwirfoddol bach sy'n ceisio gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned, ac annog cymunedau i gyfrannu mwy at wella eu hardaloedd lleol.

Mae'r Gronfa wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi ariannu prosiectau megis cymunedau lleol yn cydweithio i drefnu glanhau eu hystadau, digwyddiadau rhwng gwahanol ddiwylliannau, prynu offer mawr ei angen i roi hwb i grwpiau ddechrau, a gwella cyfleusterau sy'n eiddo i'r gymuned.
Dylai sefydliadau sydd am wneud cais i'r Gronfa Ymddiriedolaeth neu sydd am gael rhagor o wybodaeth am raglen Cymunedau yn Gyntaf gysylltu â Llinell Gymorth Cymunedau yn Gyntaf: Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf  (02920 431762 yn ystod y dydd) -  neu anfon e-bost at: help@wcva.org.uk 

Communities First Trust Fund Application Pack

doc

Covering letter

pdf

Guidelines

doc

Application form

doc

Tudalen wedi ei diweddaru ar 24/1/2012
 
Manylion Cysyllt
 
Swyddog Cyswllt Cymunedau yn Gyntaf
Enw: Faye Davies
Rhif ffôn: 01554 742377
Rhif ffacs:  01554 742199

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf, cysylltwch â llinell gymorth Cymunedau yn Gyntaf drwy ffonio 0800 587 8898 rhwng 9am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu drwy ebostio