Tystysgrifau Marwolaeth
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tystysgrifau Marwolaeth 

Ar ôl i farwolaeth gael ei chofrestru, gellir prynu un neu ragor o dystysgrifau ar adeg y cofrestru neu ar unrhyw adeg wedyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch cael tystysgrifau.

Tystysgrif ar gyfer claddu neu amlosgi

Bydd y cofrestrydd yn rhoi tystysgrif ar gyfer claddu neu amlosgi'r corff sydd fel arfer yn cael ei throsglwyddo i'r trefnydd angladdau gan y perthynas sy'n gwneud y trefniadau. Ni all angladd fynd yn ei flaen nes y rhoddir y dystysgrif hon i'r awdurdod claddu neu'r amlosgfa. Os oes oedi i gofrestru'r farwolaeth, mae'n bosibl rhoi tystysgrif ar gyfer claddu corff yr ymadawedig cyn cofrestru, ar yr amod nad oes angen hysbysu'r farwolaeth i'r crwner. Ni ellir rhoi tystysgrif ar gyfer amlosgi cyn cofrestru'r farwolaeth

Os yw marwolaeth wedi'i hysbysu i'r crwner, caiff ef neu hi roi tystysgrif ar gyfer claddu neu amlosgi lle bo'n bosibl.

Tystysgrif ar gyfer budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol cymwys

Bydd tystysgrif i'w hanfon at yr Adran Nawdd Cymdeithasol hefyd yn cael ei rhoi gan y cofrestrydd i'r person sy'n cofrestru'r farwolaeth neu ymgeisydd arall. Mae dau ddiben i'r ffurflen; rhoddir manylion y farwolaeth ar un ochr ac ar yr ochr arall mae'r cais am y ffurflenni cais cymwys.

 


Tudalen wedi ei diweddaru ar 29/10/2008