Ble a Phryd i Gofrestru Marwolaeth
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Ble a Phryd i Gofrestru Marwolaeth 

Pan fo rhywun yn marw, bydd y meddyg a oedd yn trin yr ymadawedig yn rhoi tystysgrif feddygol o achos marwolaeth i'r perthnasau. Rhaid i'r person a fydd yn cofrestru'r farwolaeth fynd â'r dystysgrif hon i swyddfa'r cofrestrydd. Ambell waith, os oedd y farwolaeth yn sydyn neu os nad yw'r meddyg a oedd yn trin yr ymadawedig ar gael, efallai na fydd yn bosibl i dystysgrif feddygol o achos marwolaeth gael ei rhoi. Os digwydd hyn, bydd yn rhaid hysbysu'r crwner am y farwolaeth, a gall hyn arwain at oedi cyn cofrestru'r farwolaeth.

Rhaid i bob marwolaeth yng Nghymru neu Loegr gael ei chofrestru yn y rhanbarth lle y digwyddodd o fewn 5 niwrnod i ddyddiad y farwolaeth. Rhoddir gwybodaeth ar gyfer y cofrestru i'r cofrestrydd gan y person sy'n cofrestru'r farwolaeth. Bydd y wybodaeth, a gofnodir ar gyfrifiadur fel arfer, hefyd yn cael ei chofnodi yn y gofrestr marwolaethau ac mae'r person sy'n cofrestru'r farwolaeth yn llofnodi'r cofnod.

Os yw'n anghyfleus i'r person sy'n cofrestru'r farwolaeth fynd i'r rhanbarth lle y digwyddodd, gellir rhoi'r wybodaeth ar gyfer y cofrestru i gofrestrydd mewn rhanbarth arall. Bydd y cofrestrydd yn cofnodi manylion y cofrestru ar ffurflen datganiad a'i hanfon at y cofrestrydd ar gyfer y rhanbarth lle digwyddodd y farwolaeth. Bydd y cofrestrydd sy'n derbyn y datganiad yn cofnodi'r wybodaeth yn y gofrestr marwolaethau. Gellir archebu a thalu am dystysgrifau o'r farwolaeth ar adeg gwneud y datganiad, a bydd y rhain, yn ogystal â'r ddogfen sy'n caniatáu i'r angladd fynd yn ei flaen, yn cael eu postio at y person sy'n cofrestru'r farwolaeth gan y cofrestrydd ar gyfer y rhanbarth lle y digwyddodd. Os defnyddir y drefn datganiad, efallai y bydd yn cymryd diwrnod neu ddau yn fwy i roi'r ddogfen sy'n caniatáu i'r angladd fynd yn ei flaen. Dylai perthnasau drafod y trefniadau gyda'u trefnydd angladdau a'r cofrestrydd er mwyn osgoi unrhyw oedi i'r angladd.

Gellir cofrestru marwolaeth yng Nghymru yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg os yw'r person sy'n cofrestru'r farwolaeth yn rhoi'r wybodaeth yn Gymraeg ac os yw'r cofrestrydd yn gallu deall ac ysgrifennu Cymraeg. Os na all y cofrestrydd ddeall ac ysgrifennu Cymraeg, gellir cofrestru mewn rhanbarth gwahanol lle mae cofrestryddion Cymraeg eu hiaith, gan ddefnyddio'r drefn datganiad a ddisgrifir uchod. Ni ellir cofrestru marwolaeth sy'n digwydd yn Lloegr ond yn Saesneg.

 


Tudalen wedi ei diweddaru ar 29/10/2008