Mae'r bobl sy'n gallu cofrestru marwolaeth yn perthyn i ddau gategori ychydig yn wahanol gan ddibynnu a ddigwyddodd y farwolaeth mewn ty neu ysbyty ac yn y blaen, neu yn rhywle arall:
Marwolaethau mewn ty neu ysbyty ac yn y blaen -
- perthynas i'r ymadawedig
- rhywun a oedd yn bresennol pan ddigwyddodd y farwolaeth
- preswylydd y ty neu'r ysbyty os oedd ef neu hi yn gwybod am y farwolaeth
- person arall sy'n byw yn y ty os oedd ef neu hi yn gwybod am y farwolaeth
- y person sy'n gwneud y trefniadau gyda'r trefnydd angladdau
Marwolaethau yn rhywle arall -
- perthynas i'r ymadawedig
- rhywun a oedd yn bresennol pan ddigwyddodd y farwolaeth
- rhywun a ddaeth o hyd i'r corff
- person sydd â gofal dros y corff
- y person sy'n gwneud y trefniadau gyda'r trefnydd angladdau
Mae'r rhan fwyaf o farwolaethau yn cael eu cofrestru gan berthynas i'r ymadawedig. Fel arfer, ni fyddai'r cofrestrydd yn caniatáu i un o'r bobl eraill a restrir gofrestru'r farwolaeth oni bai nad oedd unrhyw berthnasau ar gael.