English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Parcio a Theithio 

Mae cynllun parcio a theithio AM DDIM ar gael yng Nghaerfyrddin.

Nod y cynllun, sy'n darparu cannoedd o lefydd parcio am ddim, yw helpu busnesau’r dref ynghyd â'r siopwyr a'r gweithwyr sy'n dod i'r dref. Teithia'r bysiau gwennol yn ôl ac ymlaen i ganol y dref bob 15 munud.  Gall defnyddwyr y cynllun adael eu ceir yn Nant-y-ci a theithio i ganol y dref heb orfod poeni am ddod o hyd i le i barcio yno.  Mae 540 o lefydd parcio ar safle Nant-y-ci.

Darperir bysiau gwennol y mae pobl anabl yn gallu eu defnyddio'n hwylus, ac mae'r bysiau hyn yn teithio rhwng 7am a 7pm o ddydd Llun tan ddydd Sadwrn. Mae'r bws cynharaf yn gadael Nant-y-ci am 7am, ac yn galw yn Heol Awst am 7.15am. Mae'r bws olaf yn gadael Nant-y-ci am 6.45pm ac yn galw yn Heol Awst am 7pm er mwyn dychwelyd y teithwyr olaf i Nant-y-ci.

Mae arwyddion clir i'r maes parcio a theithio o'r A40, neu dilynwch yr arwyddion i Faes y Sioe, Caerfyrddin.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 12/1/2011