Edrychwch Cymaint Yn Rhatach Yw Hi Ichi Deithio Ar Y Bws, CYN Ichi Feddwl Defnyddio'r Car...
Ar adeg pan fo pris tanwydd yn dal i godi, mae rhagor o bobl yn chwilio am ddull arall o deithio ac nid yw mor ddrud i deithio ar fws ag y mae pobl yn honni ei fod. Yn ogystal â'r prisiau arferol, mae amrywiaeth o docynnau arbennig ar gael, sy'n fwy o hwb i helpu i leihau costau.
Gallai teithwyr rheolaidd arbed arian drwy ddefnyddio 'Tocyn 12 Taith'
Mae'r math hwn o docyn yn cynnig mwy o ostyngiad i deithwyr rheolaidd na phe baent yn prynu tocynnau taith unffordd neu ddwyffordd bob dydd. Mae'r tocyn, y mae'n rhaid ei ddefnyddio cyn pen mis calendr, yn docyn ar gyfer 12 taith unigol, unrhyw ddydd o'r wythnos, ar y rhan fwyaf o'r gwasanaethau y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn eu darparu. Mae'r tocyn 12 taith yn cynnig mwy o hyblygrwydd a gwerth am arian ichi o gymharu â defnyddio'r car.
e.e. Byddai taith unigol o £2 yn costio £1.17 yn unig, a byddai tocyn £4.90 i oedolyn am daith ddwyffordd rhwng Caerfyrddin a Llandeilo yn costio £3.27 yn unig, pe baech yn defnyddio tocyn 12 taith.
I gael rhagor o wybodaeth, holwch eich gyrrwr bws.
Ewch am daith undydd gan ddefnyddio ‘Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru’
Erbyn hyn, drwy ddefnyddio Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru mae'n haws crwydro Gorllewin Cymru ar y bws. Yn syml, gallwch brynu'r tocyn ar y bws cyntaf yr ydych yn teithio arno a'i ddefnyddio i deithio fel y mynnoch drwy gydol y dydd. Mae modd defnyddio'r tocyn ar y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau lleol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro – mae'n syndod pa mor bell y gallwch deithio mewn diwrnod.
Mae Tocyn Crwydro undydd yn costi £7 yn unig i oedolyn, neu £3.50 i blentyn. Mae Tocyn Crwydro WYTHNOS newydd nawr ar gael yn costi £28 yn unig i oedolyn, neu £14 i blentyn. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.sirgar.gov.uk neu ffoniwch Gyngor Sir Caerfyrddin (01267 228326).
Cysylltu'r trenau â'r bysiau ledled Cymru – bydd angen tocyn ‘PLUSBUS’ neu ‘Cymru Connect’ arnoch
Tocyn bws yw ‘PLUSBUS’ y gallwch ei brynu gyda'ch tocyn trên yn yr orsaf, dros y ffôn neu ar-lein. Mae'n caniatáu ichi wneud cymaint o ddefnydd ag y mynnoch o'r bysiau yn y trefi lle mae eich taith ar y trên yn cychwyn ac/neu yn gorffen, gan gynnwys y daith i'r orsaf drenau ac ohoni. Mae PLUSBUS ar gael mewn 275 o drefi ledled Prydain, gan gynnwys Llanelli a Chaerfyrddin.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.plusbus.info neu ffoniwch Traveline Cymru (0871 200 22 33).
Mae tocyn ‘Cymru Connect’ yn caniatáu ichi archebu tocyn mewn gorsaf reilffordd a theithio o bwynt A i bwynt B yng Nghymru gan ddefnyddio cyfuniad o daith ar drên ac ar fws, ond prynu’r tocyn unwaith yn unig.
Y gwasanaethau bysiau sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin a’r cyffiniau yw: 166 o Gaerfyrddin i Ardd Fotaneg Cymru; 222 o Gaerfyrddin i Lacharn a Pentywyn; X13 o Abertawe i Rydaman a Llandeilo; 10/20/40 o Gaerfyrddin i Bencader, Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron ac Aberystwyth; a’r 460 o Gaerfyrddin i Gastellnewydd Emlyn ac Aberteifi.
I gael rhagor wybodaeth, ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/cymru-connect/ neu ffoniwch Traveline Cymru (0871 200 22 33).
I'r rhai ohonoch sydd am ddod i adnabod Cymru - 'Pas Darganfod Cymru' yw'r union beth i chi
Pas Darganfod Cymru yw’r enw newydd ar ‘Bas Fflecsi Crwydro Cymru’. Un tocyn yw hwn sy’n rhoi'r rhyddid i chi ddefnyddio holl brif wasanaethau trên Cymru a bron pob gwasanaeth bws. Ac megis dechrau yw hynny. Bydd y rhai sydd â'r tocyn hwn yn cael amrywiaeth arbennig o fanteision eraill hefyd gan gynnwys mynediad “dau am bris un” neu ostyngiad ar brisiau mynediad i lawer o brif atyniadau twristiaeth Cymru a llety hosteli ieuenctid.
Edrychwch ar www.arrivatrainswales.co.uk/ExploreWalesPass/ neu ffoniwch 0870 9000 773.
Llawer mwy o ddewis o docynnau – tocynnau gan gwmnïau unigol
Mae gan First Cymru, Richards Brothers ac Arriva oll eu math penodol o docynnau. Mae'r tocynnau hyn yn ddilys ar eu rhwydweithiau bysiau unigol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i
www.firstgroup.com/ukbus/wales/swwales/home/indexw.php neu ffoniwch y gwasanaethau cwsmeriaid: 01792 582233
www.richardsbros.co.uk/ neu ffoniwch y gwasanaethau cwsmeriaid: 01239 613756
www.arrivabus.co.uk/ neu ffoniwch 0844 800 44 11
Cofiwch, gall trigolion Cymru sy'n 60 oed neu'n hŷn, a phobl sydd ag anableddau penodol, deithio ar bob gwasanaeth bws lleol yng Nghymru YN RHAD AC AM DDIM!