Mae’r amserleni yn cynnwys manylion am y gwasanaethau bws lleol sy’n gweithredu yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r wybodaeth yn gywir oni nodir yn wahanol.
I'ch helpu i gynllunio eich taith, defnyddiwch y mynegai i’r llefydd a wasanaethir, sydd ar gael yn yr adran lawrlwytho ar y tudalen amserlenni bysiau. Pan fyddwch wedi penderfynu pa wasanaeth yr ydych yn dymuno ei ddefnyddio, cyfeiriwch at yr amserlen. Cofiwch nodi ar ba ddyddiau y mae’r gwasanaeth yn rhedeg ac edrychwch ar unrhyw godau neu nodiadau a all fod yn gymwys i rai teithiau.
Mae pob amserlen yn dangos yn glir y diwrnod(au) o’r wythnos y mae’r gwasanaeth yn rhedeg. Yn ychwanegol at hyn mae rhai teithiau wedi’u nodi â chodau diwrnodau uwchben y golofn sy’n golygu fod y gwasanaeth hwnnw ar gael ar rai diwrnodau yn unig. Hefyd cofiwch fod rhai gwasanaethau bws ond yn rhedeg ar y dyddiau y mae’r ysgolion neu colegau lleol ar agor neu ar gau - cysylltwch â’r cwmni cyn teithio.
Mae pob tabl yn yr amserlenni hyn yn dilyn cloc 12 awr. Cofiwch nodi a yw’r gwasanaeth yr ydych yn edrych arno yn a.m. neu p.m.
Yn ystod Gwyliau Banc yr Haf mae nifer y gwasanaethau yn cael eu lleihau mewn rhai ardaloedd. Dangosir y gwasanaethau hyn yn yr amserlenni priodol. Mae nifer o gwmnïau bellach yn rhedeg gwasanaeth arferol ar Ddydd Gwener y Groglith. Yn ystod cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ceir dyddiau pan fydd nifer y gwasanaethau yn llai a dyddiau eraill pan na fydd gwasanaeth o gwbl. Cofiwch gysylltu â’r cwmni os ydych yn bwriadu teithio yn ystod y cyfnod hwn.
Cofiwch fod gwasanaethau yn gallu newid ar fyr rybudd. Awgrymir felly bod teithwyr yn cysylltu â’r cwmni i sicrhau manylion y llwybr, amserau a phrisiau cyn cynllunio taith.
Mae’r amserau a nodir yn yr amserlenni yn cyfeirio at yr adeg y bydd y bws yn gadael. Fodd bynnag mae’n bosibl y bydd mân amrywiaethau yn cael eu hachosi gan amodau traffig, gwaith ffordd neu amgylchiadau eraill na ellid fod wedi’u rhagweld. Gofynnir i deithwyr fod yn yr arhosfan cyn yr amser sy’n ymddangos ar yr amserlen.
Mae nifer o wasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn rhai sy’n “Aros ar Gais” sy’n golygu y gall teithwyr gael eu codi neu eu rhoi i lawr mewn unrhyw fan ar lwybr y bws os yw’n ddiogel i wneud hynny ym marn y gyrrwr. Rhowch arwydd clir i’r gyrrwr os ydych yn dymuno iddo eich codi ac os ydych am adael y bws defnyddiwch y gloch neu gofynnwch i’r gyrrwr ymlaen llaw. Mewn ardaloedd poblog defnyddir arosfannau pwrpasol. Noder bod gan y gyrrwr gyfrifoldeb i ystyried diogelwch y teithwyr a defnyddwyr eraill y ffordd - cofiwch barchu barn y gyrrwr pan fyddwch yn gofyn iddo/iddi stopio’r bws.