Beth yw gordaliad?
Mae gordaliad yn digwydd pan fydd swm o Fudd-dal nad oedd gennych hawl i'w gael yn cael ei dalu i chi neu i'ch landlord. Os ydym wedi rhoi gormod o fudd-dal tai i chi, byddwn yn gofyn i chi dalu'r gordaliad yn ôl. “Gordaliad y gellir ei adennill” y gelwir hyn.
A ellir lleihau'r gordaliad hwn?
Efallai y gallwn leihau'r gordaliad os gallwch ddangos bod gennych hawl "waelodol" i fudd-dal am y cyfnod pryd y cawsoch ordaliad. Er mwyn asesu hawl "waelodol", mae angen i chi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol o'ch incwm a'ch cyfalaf a hefyd mae angen i chi gadarnhau manylion am bwy oedd yn byw yn yr eiddo gyda chi yn ystod y cyfnod y mae'r gordaliad yn berthnasol iddo. Rhaid i chi anfon y wybodaeth hon cyn pen mis ar ôl dyddiad y llythyr sy'n eich hysbysu eich bod wedi cael gordaliad.
Beth ddylwn ei wneud os wyf yn credu bod y gordaliad yn anghywir?
Mae gweithdrefn ar waith lle gallwch ofyn i ni ailystyried ein penderfyniad, a hefyd mae gennych hawl i wneud apêl ffurfiol. I gael rhagor o wybodaeth, bwriwch olwg ar ein taflen Apeliadau neu gwnewch gais am ffurflen anghydfod os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad gwreiddiol.
Sut y bydd y gordaliad yn cael ei adennill?
- Os oes gennych hawl o hyd i dderbyn Budd-dal Tai, byddwn yn lleihau eich budd-dal bob wythnos er mwyn adennill y gordaliad.
- Gallwn ofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau ddidynnu arian o'ch budd-dal nawdd cymdeithasol er mwyn adennill y gordaliad.
- Os ydych wedi symud o'r ardal, gallwn ofyn i Awdurdod Lleol arall leihau eich Budd-dal bob wythnos i adennill y gordaliad.
- Os nad oes gennych hawl i gael Budd-dal Tai, byddwn yn anfon Anfoneb atoch am y gordaliad.
- Os na allwch dalu'r swm cyfan, gallwn drefnu i chi ei ad-dalu drwy randaliadau bob mis.
- Cysylltwch â ni i drefnu’r rhandaliadau – nodir ein rhifau ffôn drosodd.
Beth fydd yn digwydd os na thalaf yr Anfoneb?
- Byddwn yn anfon llythyrau atgoffa atoch rhag ofn eich bod wedi anghofio talu, ond os byddwch yn dal yn methu talu neu ddod i gytundeb ynghylch talu’r anfoneb, bydd yn rhaid i ni gymryd camau pellach.
- Gallai’r camau pellach gynnwys cofrestru’r ddyled â’r Llys Sirol a / neu gyfeirio’r ddyled at Asiantiaid Adennill Dyledion y Cyngor er mwyn iddynt gymryd camau gorfodi.
- Byddwn yn anfon llythyr Cyn Llys atoch yn dweud wrthych am ein bwriad cyn i ni gymryd camau o’r fath.
Beth fydd yn digwydd os cofrestrir y ddyled â'r Llys Sirol?
- Byddwch yn cael rhagor o Gostau Llys a Ffïoedd Cyfreithiwr a fydd yn cynyddu'r ddyled. Mae'r costau hyn yn amrywio yn dibynnu ar swm y gordaliad, ond maent yn amrywio o £60.00 i £100.00.
- Pan roddir Gorchymyn Llys, gallwn ofyn i'r Llys orfodi'r adennill drwy Atafaelu Enillion. Bydd y Llys yn cysylltu â'ch cyflogwr ac yn gofyn i arian gael ei ddidynnu o'ch cyflog i ad-dalu'r gordaliad. Eto, bydd Costau Llys ychwanegol o ganlyniad i hyn, sef £65.00.
- Os nad ydych yn gyflogedig, bydd y Llys yn mynnu eich bod yn mynd i wrandawiad lle gofynnir i chi ddangos prawf o'ch incwm. Yna, bydd y Llys yn cymryd camau gorfodi i adennill y gordaliad a'r costau ychwanegol drwy drefnu rhandaliadau bob mis.
Dulliau Talu
Yn bersonol neu drwy’r post:
yn un o swyddfeydd talu y Cyngor, mae’r manylion am yr amserau agor wedi’u nodi isod :-
Caerfyrddin
Swyddfeydd y Cyngor,
3, Heol Spilman, Caerfyrddin,
SA31 1LE.
Llanelli
Ty Elwyn, Sgwar Neuadd Y Dref,
Llanelli, SA15 3AP.
Dydd Llun i Dydd Iau : 8.45yb i 5.00yh
Dydd Gwener : 8.45yb i 4.30yh
Rhydamman
Neuadd y Dref, Heol Iscennen,
Rhydamman, SA18 3BE.
Llandeilo
Swyddfeydd y Cyngor, Heol Cilgant,
Llandeilo, SA19 6HW.
Dydd Llun i Dydd Iau : 8.45yb i 1.00yh
1.45yb i 5.00yh
Dydd Gwener:8.45yb i 4.30yh
A fyddech gystal a wneud y sieciau yn daladwy i Cyngor Sir Caerfyrddin.
Cerdyn Credyd / Debyd:
Cewch talu a rhan fwyaf o gardiau credyd / debyd yn
swyddfeydd talu y Cyngor (gweler y manylion uchod) neu dros y ffon - 01267 228686
Taliad dros y we:
Er mwyn talu dros y we ewch i:- http://www.carmarthenshire.gov.uk ac ewch i’r adran “Daliadau”. Sicrhewch eich bod yn nodi rhif yr anfoneb yn yr Adran “Gyfeirio” berthnasol os gwelwch yn dda.
Os hoffwch dalu y gweddill yn llawn,cymerwch yr anfoned i un o swyddfeydd y cyngor – fel nodi’r uchod – os gwelwch yn dda.
I gael rhagor o gyngor, cysylltwch â:
Yr Adain Budd-dal Tai
Cyngor Sir Caerfyrddin
Tŷ Elwyn
Llanelli
SA15 3AP
Rhif ffôn: 01554 742100 neu 742156
Rhif ffacs: 01554 742277
E-bost: gordaliadaubudddal@sirgar.gov.uk
Os hoffech gael un o’r ffurflenni hyn yn Gymraeg neu mewn llythrennau bras, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod. Mae’r daflen hon ar gael yn Saesneg hefyd.
Fel arall, gallwch alw yn un o’n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid yn:
Tŷ Elwyn 3 Heol Spilman Neuadd y Dref
Llanelli Caerfyrddin Rhydaman
Oriau Agor
8.45am – 5.00pm (dydd Llun - dydd Iau)
8.45am – 4.30pm (dydd Gwener)
I gael cyngor annibynnol, gallwch gysylltu â:
Canolfan Cyngor ar Bopeth
Llanelli 01554 759626
Caerfyrddin 01267 234488
Rhydaman 01269 591091
Shelter Cymru
01267 229206
CATCHUP Ltd
01554 776850
01554774570