English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 03/5/2012
Y Lwfans Tai Lleol  

Y Lwfans Tai Lleol yw'r newid mwyaf i'r cynllun Budd-dâl Tai yn yr 20 mlynedd diwethaf.

Beth yw Lwfans Tai Lleol?
Math newydd o Fudd-dâl Tai yw Lwfans Tai Lleol, ac mae ar gyfer tenantiaid ar incwm isel sy'n byw mewn llety sy'n cael ei rentu'n breifat.

Ni fydd yn cymryd lle'r Budd-dâl Tai. Mae'n defnyddio lwfans cyfradd benodedig yn seiliedig ar nifer y bobl sy'n byw gyda'r tenant a'r ardal lle mae'n rhentu preswylfa i bennu faint o fudd-dâl y bydd yn ei dderbyn.

Nid oes cysylltiad uniongyrchol rhwng y swm hwn a'r rhent a delir, felly gallai'r budd-dâl y mae tenantiaid yn ei dderbyn fod yn fwy neu'n llai na rhent y contract.

Bydd cyfradd y Lwfans Tai Lleol y bydd cwsmeriaid yn ei dderbyn yn cael ei hadolygu bob blwyddyn.

Bydd amgylchiadau eraill, megis incwm y tenant a'r bobl eraill sy'n byw ar yr aelwyd, yn dal i effeithio ar faint o fudd-dâl a delir, felly efallai na fydd y tenant yn derbyn y Lwfans Tai Lleol llawn bob amser.

Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn fynych:

Pryd mae'r Lwfans Tai Lleol yn cael ei gyflwyno?
Bydd y Lwfans Tai Lleol yn cychwyn ar 7fed Ebrill 2008.

Ar ba landlordiaid bydd y Lwfans Tai Lleol yn effeithio?
Mae'r Lwfans Tai Lleol yn effeithio ar unrhyw landlordiaid sy'n cychwyn ar gytundeb tenantiaeth preifat gyda rhywun sy'n derbyn Budd-dâl Tai.

Beth mae cynllun y Lwfans Tai Lleol yn ei gwmpasu?
Bydd y cynllun newydd yn berthnasol i gwsmeriaid Budd-dâl Tai mewn tenantiaethau yn

y sector preifat a ddadreoleiddiwyd a thenantiaethau preifat prif ffrwd yn unig.

Ni fydd rheolau'r Lwfans Tai Lleol newydd yn berthnasol i'r canlynol:

  • Tenantiaid Awdurdod Lleol
  • Tenantiaethau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (Cymdeithasau Tai)
  • Achosion a amddiffynnir, megis tai â chymorth a ddarperir gan rai awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol, elusennau a sefydliadau gwirfoddol;
  • Tenantiaethau sydd wedi'u heithrio o gyfyngiadau rhent cyfredol (megis tenantiaethau cyn 1989);
  • Achosion eithriadol megis carafanau, cartrefi ar gychod a hostelau;
  • Achosion lle mae'r swyddog rhenti yn barnu bod cyfran sylweddol o'r rhent yn talu am lety a phresenoldeb (e.e. llety mewn gwesty sydd eisoes yn bodoli yn y sector preifat).
  • Bydd cwsmeriaid sy'n rhentu o fewn y sectorau hyn yn parhau i dderbyn Budd-dâl Tai wedi'i gyfrifo o dan y rheolau presennol.

A fydd pob hawliad budd-dâl yn cael ei drosglwyddo i gyfraddau'r Lwfans Tai Lleol ar unwaith?
Nid ar unwaith. Bydd tenantiaid cyfredol yn parhau i dderbyn budd-dâl o dan y rheolau presennol

  • nes bod newid yn digwydd hy os bydd toriad o wythnos neu fwy yn eu hawliad neu
  • os byddant yn symud i gyfeiriad arall.
  • Wedyn bydd y budd-dâl yn cael ei drosglwyddo i'r cynllun Lwfans Tai Lleol newydd.

Fodd bynnag, os bydd marwolaeth ar yr aelwyd, a byddai'r newid yn arwain at Lwfans Tai Lleol is, bydd yr awdurdod yn diogelu cyfradd bresennol y tenant am 52 wythnos o ddyddiad y farwolaeth.

Sut mae'r Lwfans Tai Lleol yn cael ei gyfrifo?
Mae'r Lwfans Tai Lleol yn cael ei gyfrifo gan y Gwasanaeth Rhenti ar gyfer ardaloedd unigol, a adwaenir fel  Ardaloedd Marchnad Rhenti Eang, bob mis. Seilir hyn ar ganolrif y rhenti ar gyfer yr ardal benodol honno, yn dibynnu ar faint yr eiddo.
Bydd dwy ardal o'r fath yn Sir Gaerfyrddin. e.e. Caerfyrddin (h.y. cymdogaethau Caerfyrddin, Llandeilo/Llanymddyfri a Dyffryn Teifi), ac Abertawe (h.y. cymdogaethau Llanelli /RhydamanTywyn/Cydweli)

Beth yw Ardal Marchnad Rhenti Eang?
Mae Ardal o'r fath

yn cynnwys o leiaf 2 ardal breswyl wahanol nesaf at ei gilydd, gyda phob un yn
caniatáu mynediad rhesymol i gyfleusterau ar gyfer iechyd, addysg,hamdden, bancio personol a siopa, ac yn cynnwys amrywiaeth o fathau o eiddo a thenantiaethau

Pwy sy'n pennu cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol?
Wedi pennu'r Ardaloedd Marchnad Rhenti Eang, y Swyddogion Rhenti sy'n gyfrifol am gyfrifo'r Lwfans Tai Lleol ar gyfer eiddo o wahanol feintiau yn yr ardal dan sylw. Unwaith mae'r Gwasanaeth Rhenti wedi pennu cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol ar gyfer yr ardal, bydd budd-dâl cwsmeriaid unigol yn dibynnu ar eu hoedran a maint eu haelwyd. Er enghraifft, bydd person o dan 25 oed yn derbyn y gyfradd rhannu ystafell, tra bydd pâr sydd ag un plentyn yn derbyn y gyfradd dwy ystafell.


Cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol

Bydd 6 chyfradd Lwfans Tai Lleol ar gyfer pob Ardal.

Cyfradd rhannu ystafell
Cyfradd 1 ystafell wely
Cyfradd 2 ystafell wely
Cyfradd 3 ystafell wely
Cyfradd 4 ystafell wely
Cyfradd 5 ystafell wely


Cyhoeddir cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol ar ddiwedd y mis cyn iddynt ddod i rym. Er enghraifft, bydd cyfraddau mis Ebrill ar gael ar ddiwedd mis Mawrth er mwyn i gwsmeriaid sy'n chwilio am lety ym mis Ebrill wybod faint o fudd-dâl y gallant ei ddisgwyl. Adolygir cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol gan y Gwasanaeth Rhenti yn fisol, ac fe'u darperir ar gyfer awdurdodau lleol.

I bwy y telir y budd-dâl?
Mae cyfrifoldeb personol a chynhwysiad ariannol yn ddau o amcanion allweddol y Lwfans Tai Lleol. Yn y mwyafrif mawr o achosion, telir y budd-dâl i'r cwsmer.
Byddan nhw'n gyfrifol am wneud eu taliadau rhent eu hunain i'r landlord, a dim ond o dan rai amgylchiadau y gellir talu budd-dâl yn uniongyrchol i'r landlord.


Beth yw'r eithriadau hyn?
Bydd gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i dalu rhent yn uniongyrchol i'r landlord lle ceir tystiolaeth y byddai'r cwsmer yn annhebygol o dalu'r rhent ac y byddai taliadau uniongyrchol er budd y cwsmer. Bydd angen cyflwyno cais am hyn, a gellir ystyried y ffactorau canlynol, ymhlith eraill, wrth benderfynu a ddylid caniatáu taliadau uniongyrchol:

Fel mesur diogelu. Efallai bod gan gwsmeriaid anawsterau dysgu, cyflwr meddygol neu anghenion addysgol sy'n awgrymu y gallent gael trafferth ymdrin â'u materion ariannol eu huanin; efallai na fyddant yn medru darllen, neu eu bod yn wynebu trafferthion iaith; efallai eu bod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol; neu bod ganddynt broblemau dyledion.

Dylid nodi nad yw bodolaeth unrhyw un o'r ffactorau hyn yn golygu o reidrwydd y dylid talu'r rhent yn uniongyrchol i'r landlord.
Pobl sy'n annhebygol o dalu eu rhent. Efallai bod cwsmeriaid wedi dangos, trwy eu hymddygiad yn y gorffennol, ei bod yn annhebygol y byddant yn talu eu rhent. Yn yr achosion hyn, gall yr awdurdod lleol wneud taliadau'n uniongyrchol i'r landlord.

Os oes 8 wythnos o ôl-ddyledion rhent wedi cronni. Os oes ôl-ddyledion rhent yn ddyledus, bydd yr awdurdod lleol yn trefnu i dalu'r landlord yn uniongyrchol ac eithrio mewn achosion lle nad yw hynny er lles cyffredinol i'r cwsmer. Fodd bynnag, anogir landlordiaid i gysylltu â'r awdurdod lleol cyn cyrraedd diwedd y cyfnod o 8 wythnos.


Pam cyflwyno'r newidiadau hyn?
Mae'r Lwfans Tai Lleol yn rhan o agenda'r Llywodraeth i foderneiddio gwasanaethau cyhoeddus a bydd yn helpu i sicrhau bod pawb yn medru cael cartref o safon dderbyniol. Amcanion sylfaenol y Lwfans Tai Lleol yw hyrwyddo:

  • Tegwch: Yn gyffredinol, bydd y cynllun newydd yn talu'r un faint i denantiaid mewn amgylchiadau tebyg sy'n byw yn yr un ardal.
  • Dewis: Bydd tenantiaid yn medru dewis rhwng talu mwy i aros mewn eiddo mwy o faint neu gadw'r gwahaniaeth os symudant i eiddo rhatach (hyd at uchafswm o £15 yr wythnos).
  • Tryloywder: Bydd yn haws i denantiaid a landlordiaid wybod ymlaen llaw faint o'r rhent y gellir ei dalu â Budd-dâl Tai.
  • Cyfrifoldeb personol: Mae talu'r lwfans i gwsmeriaid yn rhoi'r cyfrifoldeb am gyllido a thalu eu rhent eu hunain yn ôl iddyn nhw.
    Bydd derbyn y cyfrifoldeb hwn wrth dderbyn budd-dâl yn ei gwneud yn haws i reoli'r cam o symud i fyd gwaith.
  • Cynhwysiad ariannol: Bydd y mwyafrif o bobl yn derbyn eu taliadau tai i mewn i gyfrif banc, ac yn trefnu archeb sefydlog i dalu'r rhent i'w landlord.
  • Rhagor o gymhellion gweithio: Bydd rhagor o sicrwydd am y budd-daliadau y gallai tenantiaid sy'n gweithio eu cael yn dileu'r rhwystrau sy'n atal camu o fudd-dâl i waith.
  • Symlrwydd: Bellach, ni fydd angen y cyfyngiadau a'r penderfyniadau cymhleth ar rent sy'n cyfrannu at yr oedi wrth brosesu ceisiadau.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynghylch y Lwfans Tai Lleol, ffoniwch ein swyddog cyswllt i landlordiaid ar 0800 2889002. Bydd y staff yn medru eich helpu gydag ymholiadau cyffredinol ynghylch y Lwfans Tai Lleol yn unig. Fel arall, gallwch anfon e-bost atom i housing.benefits@sirgar.gov.uk


 
Manylion Cysyllt
 
Ty Elwyn
Sgwâr Neuadd y Dref
Llanelli
SA15 3AP

Ffon: 0800 2889002
Budd.Daliadau@sirgar.gov.uk