Cyflwynodd Deddf Diwygio Lles 2007 gynllun y Lwfans Tai Lleol a ddaeth i rym ar 7fed Ebrill 2008 gan newid y ffordd y mae budd-dal tai yn cael ei gyfrif a'i dalu i bobl sy'n byw yn y sector rhentu preifat.
Nod y diwygiadau yw atal tenantiaid, sy'n debygol o gael anawsterau, rhag mynd i ddyled â'u rhent ac wynebu cael eu troi allan o'u cartref.
Un arall o amcanion diwygio Budd-dal Tai yw annog tenantiaid i dderbyn cyfrifoldeb am dalu eu rhent ac felly mae'n rhaid i'r Cyngor gadw'r ddysgl yn wastad rhwng y darpariaethau ar gyfer talu'r landlord yn uniongyrchol a'r angen am hyrwyddo nodau Diwygio Budd-dal Tai.
I gael rhagor o wybodaeth llwythwch i lawr ein Polisi Camau Diogelu - y Lwfans Tai Lleol a'r dogfennau canllaw lleol.
Hefyd gallwch lwytho i lawr ffurflen er mwyn gwneud cais am dalu'r lwfans tai lleol yn uniongyrchol i'ch landlord.